Mae cannoedd o brotestwyr wedi bod yn lleisio eu pryderon tu allan i’r Senedd heddiw am ddyfodol Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

Dyma’r ail brotest o fewn tri mis gan ymgyrchwyr sy’n poeni am ddyfodol adran ddamweiniau ac achosion brys yr ysbyty.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi cyflwyno deiseb ag arni 26,000 o enwau, yn galw am ddiogelu gwasanaethau’r ysbyty.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu honiadau bod yr adran ddamweiniau yn yr ysbyty am gau, gyda gwasanaethau’n cael eu symud i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Ond mae’r ymgyrchwyr yn dadlau y byddai’r cynlluniau yn peryglu bywydau.

‘Byrbwyll’

Dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Geidwadol Darren Millar AC ei fod wedi gofyn i’r Gweinidog Iechyd i gadarnhau na fyddai’r adran yn cael ei israddio, ond ei bod wedi methu sicrhau hynny.

“Mae’n glir bod yr uned yma – fel nifer ar draws Cymru – o dan fygythiad. Mae hyn yn anghyfrifol a byrbwyll ac fe fydd yn cael effaith andwyol ar y GIG.

“Rwy’n rhannu pryderon y protestwyr sy’n haeddu cael mynediad i wasanaethau iechyd lleol. Mae cynlluniau Llafur i israddio a gorfodi cleifion i deithio ymhellach am eu gofal yn ddiangen ac yn anheg,”  meddai.