Ysbyty Glan Clwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn gwario £15bn dros y degawd nesaf ar brosiectau mawr megis ysgolion, ysbytai, tai, a ffyrdd.

Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt fanylion cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru sy’n cynnwys prosiectau seilwaith mawr, ond mae llefarydd cyllid y Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu’r Llywodraeth am “ail-becynnu hen addewidion gwario” ac am “gamarwain pobol i feddwl eu bod nhw’n gwario mwy ar brosiectau cyfalaf.”

“Nid yw hyn yn weledigaeth go iawn ar gyfer twf economaidd” meddai Peter Black.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y Llywodraeth yn “awyddus i achub ar bob cyfle i gynyddu buddsoddiad cyfalaf, er gwaetha’r gostyngiadau difrifol yn ein cyllideb.”

Dywedodd y Llywodraeth y bydd yr arian yn cael ei wario yn benodol er mwyn gwella’r rhwydwaith drafnidiaeth, gwella rhwydweithiau telegyfathrebu, cefnogi datblygiad y diwydiant ynni, buddsoddi mewn tai, creu gwasanaeth iechyd mwy effeithlon a gwella ansawdd ysgolion.

“Gweledigaeth glir”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt: “Am y tro cyntaf rydym ni’n rhoi gweledigaeth glir i’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector o’n blaenoriaethau dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd hynny’n eu helpu i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau – gyda sgiliau ac adnoddau digonol – i gefnogi’r prosiectau allweddol y byddwn yn eu hariannu.”

Bydd dulliau newydd o ariannu prosiectau mawr medd y Llywodraeth, gan adeiladu ar y ffyrdd sydd wedi cael eu defnyddio eisoes megis Menter Fenthyca Llywodraeth Leol a chymorth ar gyfer Bond Tai Cymru i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.

“Mae yna gyllid ar gael ar gyfer prosiectau cadarn gyda ffrydiau refeniw sicr ac mae’n rhaid i ni ganfod ffyrdd arloesol o fanteisio ar yr adnoddau hynny,” meddai Gerry Holtham, a roddodd gyngor i Lywodraeth Cymru ar y cynllun.

Yn ogystal cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £6.8m ar gael i gyflymu’r gwaith ar Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Llandochau, £5m i gefnogi prosiectau ysgolion yn Llanbedr Pont Steffan, Abercynon, Penarth a Sir Ddinbych, a £3m ar gyfer y campws ôl-16 newydd yng nghanol Caerdydd.

Dems Rhydd yn cyfrannu

Cyfrannodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru at fanylion y cynllun heddiw ar ôl dod i gytundeb gyda’r Blaid Lafur yn ystod y trafodaethau cyllid. Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y blaid yng Nghymru, ei bod hi’n falch fod y Llywodraeth wedi mabwysiadu cynllun er mwyn gwarantu morgeisi prynwyr-tro-cyntaf ar dai newydd.

“Nid yw prynwyr tro cyntaf yn gallu cael mynediad at yr arian angenrheidiol i roi deposit ar dŷ sy’n golygu fod oedran cyfartalog prynwr tro cyntaf yn codi.

“Mae trafferthion y marchnadoedd arian a’r banciau wedi ei gwneud hi’n anodd i bobol brynu eu tŷ cyntaf a rydym ni’n credu y bydd y cynllun yma yn helpu prynwyr tro cyntaf yng Nghymru,” ychwanegodd Kirsty Williams.