Jane Hutt
Fe fydd cynllun newydd i greu twf a gwaith yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru sy’n bwriadu gwario dros £3.5bn ar brosiectau cyfalaf yn ystod y cyfnod gwario nesa’, a thros £15bn dros y degawd nesa’.

Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, yn addo y bydd isadeiledd Cymru yn cael hwb sylweddol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu swyddi a chryfhau isadeiledd y wlad, ac r’yn ni eisie cymryd mantais o bob cyfle i gynyddu faint o arian yr ydyn ni’n fuddsoddi ar brosiectau cyfalaf, beth bynnag ydi’r toriadau sy’n digwydd yn ein cyllideb,” meddai Jane Hutt.

“Fe fydd y cynllun yn cynnwys rhestr o brosiectau cyfalaf ar gyfer y tair blynedd nesa’, a sut yr ydyn ni’n bwriadu blaenoriaethu ein buddsoddiad dros y deng mlynedd nesa’.

“Dyma’r tro cynta’ i ni gyhoeddi braslun mor glir o’n blaenoriaethau cyfalaf.”

Beth ydi’r Cynllun Twf?

Mae’r Cynllun, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn gwneud yn siwr fod gan y sector preifat ddigon o adnoddau a sgiliau er mwyn cynnal isadeiledd Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesa’.

“Wrth i ni ddatblygu’r Cynllun, r’yn ni wedi bod yn trafod yn eang gyda’r gymuned fusnes, gyda phartneriaid yn y gymuned, a’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector,” meddai Jane Hutt.

“Mae gwledydd Prydain wedi llithro’n ôl i ddirwasgiad, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n bwysicach i ni fuddsoddi mewn cyfalaf ac isadeiledd yng Nghymru.”

Tai ar frig y rhestr

Mae buddsoddi mewn tai yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, meddai Jane Hutt. Dyna pam y bydd hi, yn nes ymlaen heddiw, yn cyhoeddi y bydd mwy o arian ar gael i ehangu’r prosiect sy’n mynd i’r afael â thai gwag.

Bydd hefyd yn addo ymestyn Partneriaeth Tai Cymru, ac yn datblygu cynllun Cymreig ar gyfer sicrhau morgeisi.