Mae colofn olygyddol papur y Western Mail heddiw wedi ennyn ymateb chwyrn gan Gymry Cymraeg sydd am weld hawliau cyfartal i’r Iaith yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae tudalen flaen y papur dyddiol ‘cenedlaethol’ heddiw yn cwestiynu argymhelliad gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad y dylai cofnodion ysgrifenedig o bob pwyllgor yn y Senedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddai dwyieithrwydd felly, yn ôl y Western Mail, yn costio £400,000 o arian y trethdalwyr.

“Mae argymhelliad anhygoel wedi ei wneud gan wyth Aelod Cynulliad a fyddai o blaid gwario £400,000 y flwyddyn ar gyfieithu i’r Gymraeg y cofnod ysgrifenedig o bob cyfarfod sy’n digwydd yn y Cynulliad Cenedlaethol,” meddai’r erthygl yn y Western Mail heddiw.

“Dyma ydyn ni’n ddweud: ar adeg pan mae cyllidebau’n cael eu gwasgu a phan mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri, dyma foethusrwydd na allwn ei fforddio.

“Mae cyfraith newydd dan ystyriaeth a fydd yn diffinio sut y mae’r Cynulliad yn dod at yr iaith Gymraeg,” meddai’r erthygl wedyn. “Mae Comisiwn y Cynulliad, sy’n rhedeg adain ddeddfwriaethol y corff democrataidd cenedlaethol, eisiau glynu wrth y drefn bresennol sy’n darparu trawsgrif dwyieithog llawn o sesiynau’r Cynulliad.

“Ond mae aelodau’r pwyllgor Cymunedau, Cyfartaledd a Llywodraeth Leol, sy’n sgriwtineiddio Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) wedi argymell… y dylai cofnodion pob pwyllgor a chyfarfodydd swyddogol eraill y Cynulliad gael eu cyfieithu i’r Gymraeg hefyd.”

Trydar yn boeth

Mae degau o filoedd o bobol wedi bod yn trydar ar y mater hwn, gan ddefnyddio enw #westernfail yn hytrach na defnyddio enw cywir y papur er mwyn gwneud eu pwynt.

“Onid oedd golygydd y Western Mail yn ymgyrchu’n ddiweddar i berswadio Llywodraeth Cymru i wario arian cyhoeddus ar hysbysebion mewn papur sy’n cael ei ddarllen gan ychydig iawn o bobol?” meddai’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Yn ôl Huw Thomas (@huwthomas), yr ymateb i stori tudalen flaen y Western Mail ydi trydydd pwnc mwya’ poblogaidd y wefan gymdeithasol.

Ac mae Myfanwy Davies (‏@DrMyfanwyDavies) yn galw ar gefnogwyr y Gymraeg i roi pwysau ar @WalesOnline i ymddiheuro am y sylwadau, trwy arwyddo’r ddeiseb yn http://act.ly/5vw.