Mae bron i 80% o weithlu Llywodraeth Cymru – bron i bedwar o bob pump o bobol –  yn galw eu hunain yn “rheolwyr”, yn ôl ystadegau sydd wedi dod i law Ceidwadwyr Cymru.

O blith y 5,424 o weision sifil sy’n cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru, mae 4,189 (neu 77% ohonyn nhw) yn derbyn cyflog rheolwr/aig. Mae 1,156 yn cael eu gosod yn y grwp ‘tim cefnogol’ a’r 79 sy’n weddill yn y dosbarth ‘arall’.

Fe ddaeth yr wybodaeth mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad.

Mae gweithwyr yn cael eu dosbarthu’n fandiau rheoli 1, 2 a 3; yna’n fandiau gweithredol 1 a 2; neu’n ‘fandiau gwasanaeth sifil’. Mae’r ffigyrau’n dangos fod yna bedwar ‘rheolwr’ i bob aelod o staff ar waelod yr ysgol, o ran y cyflogau y maen nhw’n ei dderbyn.

Eto i gyd, mae’n anodd dweud faint yn union o’r rhai sy’n cael eu disgrifio’n “rheolwyr” sydd, mewn gwirionedd, yn rheoli pobol eraill.

“Mae categoreiddio bron i 80% o staff Llywodraeth Cymru yn ‘rheolwyr’ yn ymddangos yn ormodol, ac mae’n iawn i drethdalwyr gwestiynu p’un ai ydi’r gwasanaeth suful yng Nghymru yn bendrwm ai peidio,” meddai Andrew R T Davies, arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad.

Staff Llywodraeth Cymru – y ffeithiau

* Hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, roedd 936 o weithwyr yn derbyn rhwng £44,000 a £162,000 o gyflog.

* Mae nifer holl aelodau staff Llywodraeth Cymru wedi gostwng o 6,479 yn 2009 i 5,424 yn 2012.