Mae gwneud yn siwr fod gan bawb gartref sydd mewn cyflwr da ac yn fforddiadwy, yn rhan bwysig o gymdeithas deg a chefnogol. Dyna neges y Gweinidog Tai a Diwylliant, Huw Lewis, wrth iddo lansio’n swyddogol heddiw Bapur Gwyn ar Dai.

Mae’r papur gwyn yn cyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol sy’n addo mynd i’r afael â digartrefedd; gwella cyflwr tai preifat a rhent; yn ogystal â chynnwys argymhellion ynglyn â ffyrdd i wella tenantiaeth o safbwynt y tenant a’r landlord.

Mae’r papur gwyn hefyd yn dweud sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru erbyn 2019, gan wneud yn siwr fod cymorth ar gael ar gyfer pawb sy’n eu cael eu hunain heb do uwch eu pennau.

“Mae hyn yn ymwneud â rhoi to uwch pennau pobol,” meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai. “Mae problemau tai yn effeithio ar iechyd pobol a’r ffordd y maen nhw’n teimlo, yn ogystal â’u gallu nhw i ddod o hyd i swydd a dal gafael arni.

“I blant, mae cartref iawn yn sail i weddill eu bywydau.

“Rydyn ni eisie gwneud popeth allwn ni i helpu pobol gael ty,” meddai Huw Lewis. “Fe fyddwn ni’n uchelgeisiol, yn arloesol ac yn gyd-weithredol er mwyn gwneud newid go iawn.

“Rydyn ni eisie dileu tlodi, taclo’r anghyfartaledd sydd yna rhwng cymunedau, rydyn ni eisie cynyddu nifer y sgiliau a’r swyddi, taclo newid yn yr hinsawdd, a gwella iechyd pobol.”

Y Papur Gwyn

Mae argymhellion eraill yn y Papur yn cynnwys:

  • Cryfhau rôl strategol yr awdurdodau lleol yn adnabod anghenion tai;
  • Taclo mater tai gwag trwy roi’r pwer i awdurdodau lleol godi mwy o dreth cyngor ar dai sydd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn;
  • Gwella amodau byw unigolion a theuluoedd sy’n rhentu tai gan landlordiaid preifat, trwy wella’r ffordd mae landlordiaid, asiantaethau rhent a rheolwyr tai yn gweithio.