Guto Harri
Mae cyn-bennaeth cyfathrebu Maer Llundain, Boris Johnson, wedi derbyn swydd â Rupert Murdoch yn hytrach na gweithio â’r Prif Weinidog, David Cameron, yn Rhif 10 Stryd Downing, yn ôl adroddiadau yn y wasg.

Yn ôl papur newydd y Daily Telegraph mae cyn-brif ohebydd gwleidyddol y BBC wedi gwrthod ail gynnig gan y Prif Weinidog i fod yn bennaeth cyfathrebu Stryd Downing.

Yn ôl y papur roedd Guto Harri wedi dweud wrth ei gyfeillion agosaf ddydd Gwener ei fod wedi derbyn swydd â Rupert Murdoch, ond ei fod yn “hollol ddirgel”.

Fe fydd ganddo’r dasg o geisio ail adeiladu enw da News International yn sgil datguddiadau niweidiol y blynyddoedd diwethaf.

Mae Guto Harri yn 45 oed ac mae ganddo dri o blant â’i wraig, y nofelydd Shireen Jilla. Dechreuodd ei yrfa mewn radio a theledu Cymraeg.

Roedd yn bennaeth cyfathrebu Boris Johnson nes i hwnnw ennill ail dymor wrth y llyw yn Faer Llundain.