David Melding
Fe fydd aelodau o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr, a’r Democrataid Rhyddfrydol yn ymuno er mwyn sefydlu melin drafod newydd i’r dde o’r canol.

Cyhoeddodd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, David Melding, ar raglen Sunday Supplement Radio Wales ei fod yn bwriadu sefydlu’r melin drafod fis nesaf.

Fe fydd y felin drafod yn trafod polisïau gan gynnwys yr economi, addysg a thai.

“Rydyn ni’n teimlo nad yw gwleidyddiaeth sydd i’r dde o’r canol wedi cael y blaenoriaeth sydd ei angen er mwyn iddo fod yn ffynhonell syniadau ac ysbrydoliaeth,” meddai.

“Mae angen i Gymru gael y polisïau economaidd a chymdeithasol orau posib.

“Dyna pam bod angen llwyfan unedig sy’n gofyn pa fath o bolisiau sydd eu hangen er mwyn bod yn wlad lwyddiannus.

“Mae angen annog pobol i ddod at ei gilydd a meddwl yn ddwys am beth sydd aei angen er mwyn hybu addysg, yr economi, a thai.

“Efallai nad ydyn nhw’n cefnogi plaid benodol ond yn fodlon trafod syniadau fydd yn dylanwadu ar bolisi a Chymru er gwell.

“Ni fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn denu aelodau newydd i’r blaid Geidwadol. Fe fydd yn draws-bleidiol ac yn amhleidiol.

“Fe fydd aelodau blaenllaw o Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn rhan o’r peth.”