Jeremy Colman
Mae’r cwmni a oedd yn gyfrifol am edrych dros gyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru wedi ymddiswyddo ar ôl i ACau ddod o hyd i fwlch gwerth £1 miliwn.
Roedd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wedi codi cwestiynau am waith KT Owens Thomas ac fe benderfynodd y cwmni roi’r gorau i’r cytundeb ddoe.
Roedd y berthynas broffesiynol rhyngddyn nhw a’r Cynulliad wedi chwalu, meddai’r cwmni o Gaerdydd, ac felly roedd hi’n amhosib iddyn nhw barhau gyda’r gwaith.
Ymddiswyddiad
Fe ddaeth yr ymddiswyddiad mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yr AC Darren Millar, ac fe fydd y Pwyllgor yn awr yn mynd ati i benodi archwilwyr newydd.
Roedd tystiolaeth a roddwyd i’r Pwyllgor wedi dod o hyd i fwlch o £1 miliwn yng nghyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru, sydd i fod i gadw llygad ar wario a threfniadau ariannol cyrff cyhoeddus y wlad.
Roedd yr arian yn ymwneud â threfniadau ymddeol, gan gynnwys taliad o £750,000 wrth ffarwelio ag un uchel swyddog – doedd hwnnw ddim wedi ei gynnwys yn y cyfrifon.
Roedd hynny yn nyddiau’r Prif Archwilydd, Jeremy Colman, sydd bellach yn y carchar am droseddau rhyw.
Y cwmni’n gwrthod y feirniadaeth
Mae KT Owens Thomas wedi amddiffyn eu gwaith a mynnu eu bod wedi cadw at safonau arferol y maes archwilio.
Doedden nhw ddim wedi cael dim gwybodaeth na ffigurau ar gyfer y taliadau, medden nhw, ac felly doedd dim tystiolaeth iddyn nhw ei harchwilio.