Milwyr o Gymru yn Afghanistan
Mae angen gwneud mwy i helpu cyn-filwyr sy’n diodde’ o drawma oherwydd rhyfel – gan gynnwys gwell trefn o drosglwyddo gwybodaeth rhwng y fyddin a meddygon teulu.

Dyna neges Pwyllgor Iechyd y Cynulliad sydd wedi gwneud rhes o argymhellion am ffyrdd o wella gwasanaethau a chodi ymwybyddiaeth o’r broblem.

Roedden nhw wedi clywed gan dystion bod y syndrom trawma PTSD yn gallu effeithio ar gyn-filwyr flynyddoedd yn ddiweddarach gan arwain at broblemau gyda throseddu a chyffuriau.

Fe fydd teuluoedd llawer hefyd yn chwalu, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Jonathan Morgan, a llawer yn cael eu gwneud yn ddigartref.

Bylchau mewn cofnodion

Problem arall yw bod bylchau mewn cofnodion meddygol o gyfnod y cyn-filwyr yn y rhyfel yn llesteirio gallu meddygon teulu i’w helpu.

Ym marn y pwyllgor, mae hynny’n golygu bod y doctoriaid yn aml yn methu ag adnabod symtomau’r trawma.

Mae’r argymhellion yn cynnwys gwella safon yr wybodaeth sydd ar gael am gyn-filwyr o’r fath er mwyn rhannu arian yn well ar gyfer triniaeth a gwasanaethau cefnogi.

Fe ddylai cyn-filwyr yn y carchar allu manteisio’n llawn ar y rheiny hefyd, meddai’r Pwyllgor.

Argymhellion eraill

Dyma rai o’r prif awgrymiadau eraill:

  • Gwella ymwybyddiaeth a hyfforddiant yn y Gwasanaeth Iechyd.
  • Cymorth i fudiadau greu rhwydweithiau cymorth a chodi ymwybyddiaeth o’r rheiny.
  • Yr hawl i gynnwys gwybodaeth o gyfnod gwasanaeth milwrol ar gofnodion meddygol cyn-filwyr.
  • Sicrhau bod milwyr yn cael eu sgrinio am PTSD flwyddyn ar ôl gadael y lluoedd arfog.
  • Sicrhau gofal a chymorth i gyn-filwyr sy’n cam-drin cyffuriau a mwy o driniaethau therapiwtig arbenigol, gan gynnwys triniaethau siarad.