Gorsaf heddlu
Fe allai’r Cynulliad fod yn wynebu gwrthdaro gyda’r Llywodraeth yn Llundain tros greu swyddi newydd Comisiynwyr Heddlu.

Brynhawn ddoe, fe bleidleisiodd y Cynulliad o fwyafrif bychan yn erbyn yr unig ran o’r cynlluniau newydd sy’n dod o dan eu hawdurdod nhw.

Dyma’r tro cynta’ iddyn nhw wrthod dilysu rhan o Fesur sy’n cael ei gynnig yn San Steffan.

Y ddadl

Ar ôl dadl yn y siambr fe gafodd cynnig i sefydlu Paneli Heddlu ei wrthod – nhw fyddai’n cadw llygad ar waith y Comisiynwyr ac maen nhw’n rhan allweddol o’r mesur sy’n cael ei drafod yn Senedd San Steffan.

Mae hwnnw – y Mesur Diwygio Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol – yn creu swyddi Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a fydd yn cael eu hethol ar gyfer pob heddlu yng Nghymru a Lloegr. Y nod yw cynnal yr etholiadau cynta’ ym mis Mai’r flwyddyn nesa’.

Fe fyddai’r Comisiynwyr yn disodli’r Awdurdodau Heddlu presennol, gyda’r Paneli Heddlu yn cadw llygad ar eu gwaith. Fe fyddai gan y rheiny o leia’ ddeg aelod, gan gynnwys cynghorwyr ac, yng Nghymru, Aelodau Cynulliad.

Dyna’r rhan o’r Mesur sy’n gorfod cael cytundeb y Cynulliad a, ddoe, roedd 23 o ACau wedi pleidleisio yn erbyn, a dim ond 17 o blaid. Roedd 15 wedi atal eu pleidlais.

‘Bwrw ymlaen’

Yn ôl y BBC, mae’r Gweinidog Heddlu yn y Swyddfa Gartref, Nick Herbert, wedi dweud eisoes y bydd yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.