Mae corff cadwraeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei chyfraith cynaliadwyedd sydd ar y gweill.
Mae WWF Cymru yn dweud fod ‘archwiliad iechyd byd-eang’ sy’n cael ei gyhoeddi’r wythnos hon yn dangos y pwysau aruthrol yr ydan ni’n ei roi ar y byd naturiol.
Mae adroddiad The Living Planet Report 2012, a gyhoeddir gan WWF, yn dangos bod y ffordd yr ydan ni’n defnyddio mwy a mwy o adnoddau’r ddaear yn bygwth ein diogelwch a’n lles yn y dyfodol.
Mae’r lansiad yn digwydd ar yr un pryd ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fil Datblygu Cynaliadwy. Mae WWF Cymru’n credu y gallai’r Bil wneud Cymru’n arweinydd byd-eang ar gynaliadwyedd, ond nad yw’r cynigion cyfredol yn ddigon i sicrhau’r hyn mae ei angen i wneud Cymru’n genedl gynaliadwy.
‘Er lles cenedlaethau i ddod’
Cafodd yr adroddiad, a gynhyrchwyd ar y cyd gyda Chymdeithas Sŵolegol Llundain a’r Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang, ei lansio heddiw o’r Orsaf Ofod Rhyngwladol gan Andre Kuipers, un o Lysgenhadon WWF a gofodwr, sy’n dod o’r Iseldiroedd.
“Dim ond un ddaear sydd gennym,” meddai Andrew Kuipers, sy’n gweithio gydag Asiantaeth Ofod Ewrop. “O’r fan hon gallaf weld ôl troed y ddynoliaeth, gan gynnwys tanau mewn coedwigoedd, llygredd aer ac erydiad – heriau sy’n cael eu hadlewyrchu yn y rhifyn hwn o’r Living Planet Report.
“Er bod yna bwysau anghynaladwy ar y blaned, mae’r gallu gennym i achub ein cartref, nid yn unig er ein lles ni, ond er lles cenedlaethau i ddod.”
Cynnwys yr adroddiad
- Mae’r ddynoliaeth yn defnyddio 50% yn fwy o adnoddau naturiol nag y gall y blaned eu cynhyrchu’n gynaliadwy;
- Mae’r Deyrnas Unedig wedi codi pedwar safle o’r 31ain safle i’r 27ain safle yn rhestr sy’n cymharu Ôl Troed Ecolegol pob gwlad;
- Ar hyn o bryd mae’n cymryd 1.5 blwyddyn i’r Ddaear amsugno’r CO2 a gynhyrchir ac i atgynhyrchu’r adnoddau adnewyddadwy mae pobl yn eu defnyddio mewn blwyddyn;
- Mae 2.7 biliwn o bobl yn byw mewn mannau lle mae prinder dŵr difrifol am o leiaf un mis y flwyddyn;
- Ar hyn o bryd mae’r Ôl Troed Ecolegol y pen mewn gwlad ag incwm uchel fel Unol Daleithiau America chwe gwaith yn fwy na’r ôl troed y pen mewn gwlad incwm isel fel Indonesia;
- Y 10 gwlad sydd â’r Ôl Troed Ecolegol mwyaf y pen ydi: Qatar, Kuwait, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Denmarc, Unol Daleithiau America, Gwlad Belg, Awstralia, Canada, yr Iseldiroedd ac Iwerddon.