Mae’r grŵp tu ôl i orsaf radio cymunedol newydd y gorllewin yn mynnu na fydd gwaharddiad Ofcom arnyn nhw i ddenu hysbysebion a nawdd yn tanseilio cynaladwyedd ariannol y cynllun.

Yn ôl Geraint Davies o grŵp Cyfeillion Radio Ceredigion, sydd newydd ennill trwydded ddarlledu ar gyfer creu Radio Beca, mae ganddyn nhw gynlluniau eraill ar waith i gynnal y gwasanaeth.

Mae rheolau’r drwydded y mae Radio Beca wedi ei hennill yn nodi nad oes hawl gan yr orsaf gael unrhyw fath o hysbysebion na nawdd.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom wrth Golwg 360 heddiw fod y gwaharddiad wedi ei osod yn nhelerau trwydded Radio Beca er mwyn osgoi “gwrthdaro rhwng gorsafoedd radio cymunedol a gorsafoedd radio masnachol.

“Holl fwriad Radio Beca yw bod er budd cymunedol, nid er mwyn gwneud elw,” meddai’r llefarydd.

‘Eithriadol’

Mae Radio Beca wedi llwyddo i sicrhau trwydded ar gyfer creu gwasanaeth radio fydd yn ymestyn o Geredigion i Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – ac mae hyn yn gwneud sefyllfa’r orsaf yn un eithriadol, yn ôl Ofcom.

“R’yn ni’n edrych ar amodau’r trwyddedau fesul achos. R’yn ni’n ystyried bob un drwydded yn ôl eu cryfderau ac mewn perthynas â’r gorsafoedd masnachol,” meddai’r llefarydd.

“Mae dalgylch Radio Beca yn ehangach na dalgylch arferol radio cymunedol – sydd â dalgylch o ryw 5km. Mae Radio Beca yn ymestyn ar draws yr hen sir Ddyfed. O fewn yr ardal yna mae’n cyffwrdd â sawl gorsaf fasnachol, ac mae Ofcom gorfod sicrhau budd i orsafoedd masnachol,” meddai.

Un o’r gorsafoedd sy’n rhannu tir â Radio Beca newydd yw gorsaf fasnachol Radio Ceredigion, sy’n berchen i Town and Country Broadcasting. Ymateb i’r dirywiad diweddar yn narpariaeth iaith Gymraeg Radio Ceredigion oedd un o’r prif resymau dros wneud cais am drwydded radio cymunedol ar gyfer Radio Beca.

‘Dulliau cydweithredol’

Ond yn ôl Geraint Davies roedd y grŵp tu ôl i Radio Beca – Cyfeillion Radio Ceredigion – yn “ymwybodol o’r amod o’r cychwyn cyntaf.”

Dywedodd wrth Golwg 360 heddiw fod gan y grŵp gynlluniau eraill er mwyn codi arian, a bod y rheiny i gael eu trafod a’u rhoi ar waith dros y misoedd nesaf.

“Fe fyddwn ni’n trafod dulliau cydweithredol o godi arian, er enghraifft bod pobol y tair sir yn dal cyfranddaliadau.

“Ond d’yn ni braidd wedi cychwyn ar y daith eto,” meddai.

Mae’r rheiny tu ôl i Radio Beca yn amcangyfrif y bydd angen £150,000 y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyntaf, er mwyn ateb costau staffio, stiwdio, offer a chyfarpar, a chost y tri throsglwyddydd ym Mlaenplwyf, Carmel a Preseli.

“R’yn ni’n hyderus fod £150,000 yn ffigwr realistig, ac o fewn ein cyrraedd,” meddai Geraint Davies.