Al Lewis - Cyfansoddwr y Flwyddyn, ac Artist Gwrywaidd y Flwyddyn
Un o fandiau mwyaf eiconig yr 80au oedd enillwyr gwobr am gyfraniad oes at gerddoriaeth yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru neithiwr.

Y Llwybr Llaethog gipiodd y wobr am y ‘Cyfraniad Arbennig’ at gerddoriaeth yng Nghymru yn un o brif seremonïau’r byd roc a phop Cymraeg eleni.

Cafodd enillwyr Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru eu datgelu yn fyw ar yr orsaf ddoe, ar ôl wythnosau o ddewis a dethol o blith artistiaid ac albymau Cymraeg o bob cwr o Gymru.

Roedd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o 29 o bobol, oedd yn gynrychiolwyr annibynnol o faes cerddoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys cynhyrchwyr, hyrwyddwyr gigs, cwmnïau teledu, cylchgronau, a mudiadau ynghlwm â’r byd cerddoriaeth.

Yn ôl Irfon Jones, is-olygydd BBC Radio Cymru, mae’r Gwobrau Roc a Phop yn “ddathliad arbennig iawn yng nghalendr yr Orsaf. Gwobrau’r diwydiant ydyn nhw a phanel o arbenigwyr o’r maes sydd yn penderfynu ar yr enillwyr.”

Roedd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi drwy’r dydd ar raglenni Radio Cymru ddoe, gyda sesiynau byw gan yr enillwyr, gan gynnwys Al Lewis, Yr Ods, Georgia Ruth Williams, Swnami a’r Niwl.

“Bob blwyddyn mae darogan tranc y sin roc a phop yng Nghymru ond mae’r Gwobrau unwaith eto eleni yn profi nad oes angen poeni!” meddai Irfon Jones.


Yr Ods a'u gwobrau
“Roedd y sesiynau byw glywyd drwy gydol y dydd ddoe yn wefreiddiol ac mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi a thynnu sylw haeddiannol i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru.”

Wrth i’r band eiconig o’r 80au gipio gwobr y Cyfraniad Arbennig ar gyfer 2012, roedd digon o enwau newydd hefyd ar y rhestr enwebiadau eleni.

Dyma restr yr enwebiadau, a’r enillwyr:
(Enillwyr *)

Band y Flwyddyn

Cowbois Rhos Botwnnog
Yr Ods *

Creision Hud
Y Niwl

Artist Benywaidd y Flwyddyn

Elin Fflur
Catrin Herbert
Georgia Ruth Williams *

Lleuwen Steffan

Cynhyrchydd y Flwyddyn

John Lawrence
Richard Roberts
Crash Disco
Dave Wrench *

Albym y Flwyddyn

Huw M – Gathering Dusk
Geraint Jarman – Brecwast Astronot
Clinigol – Discopolis
Yr Ods – Troi a Throsi *

Cyfansoddwr y Flwyddyn

Al Lewis *
Gareth Bonello
Huw M
Creision Hud

Y Band Ddaeth Fwyaf i Amlygrwydd

Sen Segur
Candelas
Swnami *

Blaidd

Artist Gwrywaidd y Flwyddyn

Gai Toms
Al Lewis *

Huw M
The Gentle Good

Digwyddiad Byw y Flwyddyn

Maes B, Eisteddfod Wrecsam
Pesda Roc *

Gwyl Gwydir
Gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod Wrecsam

Band Byw’r Flwyddyn

Y Niwl *
Yr Ods
Plant Duw
Y Bandana

Cân y Flwyddyn

Yr Ods – Sian *
Sibrydion – Brig y Nos
Jen Jeniro – Madfall
Creision Hud – Indigo

Sesiwn C2 y Flwyddyn

Creision Hud
Y Cledrau
Swnami *

Lleuwen

Artist/band ar frig Siart C2 am y nifer uchaf o wythnosau yn 2011

Steve Eaves

Y Wobr am Gyfraniad Arbennig

Llwybr Llaethog