Nikitta Grender
Mae cariad y ferch feichiog lofruddiwyd yng Nghasnewydd wedi talu teyrnged i’w “angylion”.

Daeth diffoddwyr tân o hyd i gorff Nikitta Grender, 19 oed, ar ôl tân yn ei fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, Casnewydd, am 7.50 fore Sadwrn.

Datgelodd yr heddlu nos Sul ei bod hi wedi ei thrywanu a daeth i’r amlwg ddoe ei bod hi wedi marw cyn i’r tân gynnau.

Roedd hi o fewn pythefnos i roi genedigaeth i’w merch fach, Kelsey-May.

Roedd Nikitta Grender a’i chariad Ryan Mayes, 18 oed, wedi symud i’r fflat yn Broadmead Park chwe mis yn ôl ac eisoes wedi addurno’r ystafell ar gyfer y babi.

“Helo fy angylion gobeithio eich bod chi’n iawn. Roeddech chi’n golygu popeth i fi,” meddai ar Facebook.

“Roeddwn i’n gweld dy eisiau di a gallu rhoi cusan i ti bore ma. Hoffwn i fod gyda chi nawr.

“Mae fy nghalon wedi ei rwygo ar agor ac rydw i’n dy garu di cariad a Kelsey. Am byth, dw i’n addo. XXX.”

Apelio eto

Heddiw apeliodd Heddlu Gwent i’r cyhoedd  am fwy o wybodaeth i ganfod llofrudd Nikitta Grender.

Fe ddywedodd llefarydd eu bod eisoes wedi derbyn galwadau a gwybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd ond maen nhw eisiau rhagor gan bobol leol a ffrindiau’r ferch 19 oed.

“Yn benodol r’yn ni’n awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un oedd yn adnabod Nikitta, a oedd yn yr un cylch o ffrindiau a’r rhai hynny oedd â chysylltiad â hi – yn ddynion a menywod- eu rai a oedd wedi treulio amser gyda hi ac efallai wedi bod i’w fflat”

Mae’r heddlu bellach yn eitha’ sicr o lawer o symudiadau’r ferch a oedd o fewn pythefnos i eni ei babi cynta’:

  • Roedd hi wedi cyrraedd yn ôl i’w fflat tua 1 fore Sadwrn ar ôl galw mewn caffi McDonalds.
  • Roedd y larwm tân wedi canu tua phedair awr yn ddiweddarach.
  • Roedd Nikitta Grender wedi cael ei thrywanu cyn i’r tân gael ei gynnau.

Mae’r heddlu’n awr eisiau llenwi’r bwlch rhwng yr amser pan gyrhaeddodd y fflat a’r amser pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw.

“R’yn ni eisiau gwybod lle’r oedd Nikitta ac a oedd yna unrhyw ymwelwyr i’r fflat neu weithgaredd drwgdybus yn yr ardal rhwng 1am a 5.30am,” meddai’r llefarydd.

Rhagor o blismyn ar y stryd

Mae’r heddlu a swyddogion cymunedol yn cynnal patrolau ychwanegol er mwyn tawelu meddyliau trigolion lleol.

Mae’r heddlu hefyd yn dosbarthu taflenni a defnyddio technoleg bluetooth i apelio am wybodaeth gan bobol yn ardal Boradmead Park.

Mae arbenigwyr fforensig yn parhau i archwilio eitemau o’r fflat, ac mae’r heddlu’n pori trwy luniau camerâu cylch cyfyng.

Mae 50 o heddweision yn gweithio ar yr achos erbyn hyn ac maen nhw’n cynnal ymchwiliadau o dŷ i dŷ yn yr ardal.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 01443 865562 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.