Anifeilaidd
A am afal, B am banana, C am cath. Ie, dyna sut y mae miloedd o blant yng Nghymru yn mynd ati i ddygsu’r wyddor Gymraeg.

Ond mewn llyfr newydd, mae A hefyd yn sefyll am artist, ac athro – heb anghofio ac armadilo! Ac mae B am bardd, brwsh a baracwda.

Y bardd a’r athro yw cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, yr Athro Gwyn Thomas o Fangor, a’r artist a deiliad y brwsh paent yw Jac Jones o Sir Fôn, un o artistiaid llyfrau plant mwyaf toreithiog Cymru a chyn-enillydd gwobr Tir na n-Og.

Ffrwyth llafur y ddau yma ydy llyfr newydd Ani-feil-aidd, Abiec farddol a lliwgar i blant.

“Ond gobeithio hefyd ei fod ar gyfer teidiau a neiniau hefyd,” meddai Gwyn Thomas wrth Golwg 360 am y ‘wyddor wirion’ sydd yn y gyfrol.

“Dw i wedi gweithio efo Jac Jones o’r blaen, a rydan ni’n dallt ein gilydd yn ardderchog. Mae o’n dod at yr un gair a fi o gyfeiriad arall. Mae o’n meddwl yn wreiddiol am y geiria’.”

Llyfr llawen

Mae’r arlunwaith, ynghyd â’r geiriau yn unigryw, meddai eto, yn y “llyfr llawen” hwn.

“Mae Jac Jones yn gallu gwneud gwyrthiau efo pob llyfr y mae o’n ei gyffwrdd,’ meddai Gwyn Thomas, ac mae ei gyfraniad enfawr i’r llyfr hwn yn amlwg i bawb.

“Fel un sydd wedi rhoi rhai o gymeriadau mwyaf hirhoedlog llyfrau plant i ni – Jac Jones yw artist Jac y Jwc, er enghraifft a llawer o lyfrau bendigedig T. Llew Jones – mae gan Jac hiwmor direidus dros ben.”

Crocodeil yw anifail llythyren C yn Ani-feil-aidd, meddai, ac mae’r croc hwn yn enwog am fwyta pobl, gan gynnwys un dyn o dan ei gynffon, dyn gwallt tywyll â mwstas, sy’n hynod o debyg i Jac Jones ei hun!

Ac yna anifail y llythyren L yw’r lama. Bydd oedolion efallai’n fwy tebygol o weld jôc Lamabedr Pont Steffan, y lle gwyllt hwnnw yng ngorllewin Cymru nag y bydd plant, ac eto pwy â ŵyr?

Ani-feil-aidd; Gwyn Thomas a Jac Jones;  £4.99; Gwasg Gomer