Mae Llafur yn gobeithio gweld cynnydd sylweddol yn nifer eu cynghorwyr eleni, er mwyn gwneud yn iawn am y colledion trwm yn etholiadau lleol 2008.

Mae’r blychau pleidleisio wedi agor ers 7am y bore ’ma ym mhob un o siroedd Cymru heblaw Ynys Môn – lle mae’r etholiadau wedi eu gohirio tan flwyddyn nesa’.

Llafur yw’r blaid sydd â’r nifer uchaf o gynghorau dan eu rheolaeth llawn ar hyn o bryd, a hyn er gwaetha’r canlyniadau siomedig yn 2008.

Mae Llafur yn rheoli pedwar cyngor ar hyn o bryd, tra bod y Ceidwadwyr yn rheoli dau, Plaid Cymru’n rheoli un, a grwpiau Annibynnol yn rheoli tri.

Dydi’r Dems Rhydd ddim yn rheoli’r un Cyngor yn llawn ar hyn o bryd, ond mae ganddyn nhw ran mewn sawl un o’r grŵpiau clymbeidiol sy’n rheoli 11 o gynghorau Cymru.

Ond etholiad Llafur yw hi yn ôl y polau piniwn eleni, wrth i arolwg barn diweddaraf YouGov ddangos fod cefnogaeth i Lafur ar draws Cymru i fyny i 48% – 21% yn uwch nag yn 2008.

Yn ôl yr ystadegau, mae cefnogaeth i Geidwadwyr Cymru i fyny 1%, tra bod y gefnogaeth gyffredinol i Blaid Cymru, y Dems Rhydd, a’r ymgeiswyr annibynnol wedi disgyn.

‘Cadw’r pwysau oddi ar Miliband’

Ond yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes, dyw’r polau piniwn ddim o reidrwydd yn adlewyrchiad gwir o sut bydd pleidleisiau’n cael eu bwrw – oherwydd natur amrywiol cynghorau Cymru.

“Y cwestiwn mawr,” meddai, “yw a fydd Llafur yn ennill digon o dir i gadw’r pwysau oddi ar Ed Miliband?

“Dwi’n dyfalu y bydd y pleidleisiau heno yn adlewyrchu’r polau piniwn, a bydd Ed Miliband yn dathlu llwyddiant ysgubol,” meddai..

“Ond mae ymgyrchu lleol yn gallu gwneud gwahaniaeth. Cofiwn fod cynghorwyr y Dems Rhydd yn ymgyrchwyr lleol par exellence, ac fe fydd eu gwaith yn siwr o liniaru rhywfaint ar ddarogan pôl piniwn YouGov.”