Rachel Banner
Mae Gwir Gymru wedi ymosod ar gyfryngau Cymru gan eu cyhuddo nhw o ddangos gogwydd amlwg tuag at yr ymgyrch ‘Ie’.

Roedd y rhan fwyaf o lid Rachel Banner, llefarydd y mudiad, wedi ei anelu at y Western Mail a gyhoeddodd ddydd Iau eu bod nhw’n cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’.

“Mae cyfryngau Cymru yn llawer rhy agos at ddosbarth gwleidyddol y Bae,” meddai Rachel Banner wrth Golwg 360.

“Dyw cyfryngau Llundain ddim yn talu unrhyw sylwi I Gymru ac felly mae gan bapurau dyddiol o Gymru gyda chylchrediad pitw ddylanwad anferth dros ganlyniad y refferendwm.

“Maen nhw’n tueddi i osod yr agenda newyddion ac mae’r darlledwyr yn eu dilyn nhw.”

Ymatebodd y Western Mail gan ddweud eu bod nhw “wedi gwneud ein barn am y refferendwm yn amlwg iawn yn nhudalennau ein papur newydd ac ni fydd yna sylw pellach”.

‘Unochrog’

Dywedodd Rachel Banner fod y ffaith mai un cwmni, Trinity Group, oedd yn berchen ar y Western Mail, y Daily Post a’r South Wales Echo yn gwaethygu pethau.

“Mae Trinity Group wedi bod yn gwbl gefnogol i’r ymgyrch ‘Ie’,” meddai.

“Er bod rhai gwleidyddion gan gynnwys Gerald Holtham a David Melding wedi galw am ddadl ynglŷn â phwerau trethi o fewn ymgyrch y refferendwm mae’r wasg wedi anwybyddu’r mater yn llwyr.

“Mae gan y Western Mail newyddiadurwyr galluog sy’n gallu herio Llywodraeth y Cynulliad, ond yn ystod yr ymgyrch yma dydyn nhw heb fynd i’r afael â record datganoli.

“Nid y Western Mail yn unig sydd ar fai. Er eu bod nhw’n honni eu bod nhw’n dangos cydbwysedd ac yn ddiduedd mae gwefan ar-lein y BBC hefyd yn gallu bod yn unochrog.”