Mae Eisteddfod yr Urdd wedi sefydlu gweithgor newydd i edrych ar ei dyfodol ar gyfer y degawd nesa’.

Bydd y gweithgor newydd yn dechrau ar ei waith cyn Eisteddfod Eryri gan adrodd yn ôl i Fwrdd yr Eisteddfod ddiwedd y flwyddyn.

‘‘Bwriad y gweithgor yw asesu holl agweddau’r Eisteddfod a holi ble fydd yr Eisteddfod mewn deng mlynedd i gyd-fynd gyda dathliad 100 mlynedd y mudiad,’’ meddai Aled Sion.

‘‘Bydd cynrychiolwyr o wahanol feysydd yn aelodau gan gynnwys cynrychiolwyr oddi fewn a thu allan i’r Urdd, o dan gadeiryddiaeth Nic Parri.’’

Mae’r paratoadau ar gyfer yr eisteddfod eleni ar dir coleg amaethyddol Glynllifon ger Caernarfon yn ‘‘argoeli’n dda,’’ yn ôl Cyfarwyddwr yr Urdd, diolch i gefnogaeth ‘frwdfrydig’’ pobol ardal Eryri.

‘‘Rydan ni’n byw yn y byd real, a rhaid addasu a thorri’r got yn ôl y brethyn,’’ meddai Aled Sion.

‘‘Ond r’yn ni wedi llwyddo i gynllunio’r maes a sicrhau’r un arlwy.  Mae pobol leol wedi codi arian sylweddol, ac r’yn ninnau wedi llwyddo i gael nawdd.

“Mwy na thebyg mi fydd mwy o unedwyr na sydd erioed wedi bod.  Os gwnaiff pobol droi i fyny, ac os bydd hi’n dywydd braf, mae’n siŵr y byddwn ni’n ddigon agos i’r nod, ac y bydd hi’n Eisteddfod lwyddiannus.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 26 Ebrill