Jill Evans
Mae Llywydd Plaid Cymru yn galw ar y Comisiynydd Iiath i ymchwilio i’r cynlluniau i ganiatáu codi miloedd o dai yng Nghymru.

Mewn sawl ardal mae ffrae wedi codi rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau sir, ynghylch nifer y tai y dylid rhoi caniatâd i’w codi dros y 15 mlynedd nesaf.

Tra bod y Llywodraeth yn pwyso am ganiatáu i 320,000 o dai newydd gael eu codi – sy’n gyfystyr â dwy ddinas o faint Caerdydd ac un dref o faint Wrecsam – mae cynghorau sir am weld llai o dai.

Mi fyddai’n “arwain at gyflymu a chynyddu dirywiad y Gymraeg” a “Seisnigeiddio gogledd Sir Ddinbych trwy ddenu cymundwyr”, yn ôl adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Jill Evans.

Mae angen i’r Comisiynydd Iaith newydd erych ar y cynlluniau i godi tai er mwyn gweld beth fydd yr effaith ar y Gymraeg, meddai.

“Bydde hynny yn ddefnyddiol dros ben,” meddai Llywydd Plaid Cymru.

“Wnes i gomisiynu astudiaeth o Fodelwyddan a’r effaith ar yr iaith, a wnes i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad yn seiliedig ar beth oedd yn yr adroddiad yna.

“Mae yna lawer o dystiolaeth i ddangos bod yr effaith ar yr iaith yn y gymuned yn mynd i fod yn sylweddol, ac felly dw i’n credu y dyle bod y Comisiynydd yn chwarae rhan yn y broses.”

Darllenwch yr erthygl gyfan yng nghylchgrawn Golwg, 26 Ebrill