Oriau’n unig ar ôl awgrymu y dylai Plaid Cymru a Llafur glosio, mae Leanne Wood wedi bod yn gwrthdaro gyda Carwyn Jones ar lawr y Senedd.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y sesiwn lawn gyntaf ers toriad y Pasg gofynnodd Leanne Wood i Carwyn Jones gondemnio cyflog blynyddol Russel Roberts, arweinydd Llafur Cyngor Rhondda Cynon Tâf.

Yn gynharach y mis hwn datgelwyd bod Russell Roberts wedi derbyn cyflog o £100,000 o bedair swydd sector cyhoeddus yn ystod 2010-11. Ymateb y Prif Weinidog oedd ei fod yn cyflawni’r swyddi hynny.

“Mae’n gwneud y swyddi hynny. Dyw e ddim yn cael ei dalu am ddim byd,” meddai, cyn gofyn i Leanne Wood a oedd hithau’n condemnio grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerdydd am honi ei fod ef am adeiladu ar dir glas yn y ddinas.

“Mae’n anwiredd llwyr,” meddai Carwyn Jones.

“A oes ganddi hyder llawn yn Neil McEvoy [arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd] – rhywun mae hi wedi ei chondemnio yn y gorffennol?” gofynnodd yn ôl.

‘Rhyfedd bod y Prif Weinidog yn cael gofyn cwestiynau’

Mae’r sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes wedi mynegi ei syndod dros y cweryl.

“Yn gynharach yn y dydd roedd sylwadau Leanne yn ymddangos fel apêl i bleidleiswyr Llafur neu fel ymgais i baratoi dêl gyda Llafur yn y dyfodol.

“Ond mewn meysydd o bwys neu rhai dadleuol, megis Rhondda Cynon Tâf, roedd hi’n awyddus i sticio’r gyllell i mewn, a gwleidyddiaeth amrwd yw hynna.

“Roedd hi’n rhyfedd i mi fod y Prif Weinidog yn cael gofyn cwestiwn yn ôl o ystyried mai sesiwn i holi cwestiynau iddo ef oedd hi.”

Mewn blog yn gynharach heddiw dywedodd Leanne Wood y byddai’n barod i gydweithio â Llafur ar lefel leol a chenedlaethol er mwyn ‘amddiffyn Cymru rhag y Ceidwadwyr’.