Hynt a Helynt hanes Cymru
Mae artist o Fangor wedi creu nofel weledol ‘manga’ â’r nod o ddysgu plant am hanes Cymru.

Mae Hynt a Helynt gan Sioned Glyn yn edrych ar fywydau arwyr gan gynnwys Caradog, Buddug, Macsen a  Cunedda.

“Dysgu hanes Cymru i blant heddiw,” oedd y sbardun meddai’r artist wrth Golwg 360.

“Sylweddolais i fod angen nofelau graffig modern yn y Gymraeg a dyna wnaeth fy sbarduno i greu’r gwaith yn y lle cyntaf.

“Mae’n syndod cyn lleied mae plant yn ei wybod am hanes Cymru,” meddai’r athrawes gelf yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon.

“Efallai eu bod nhw’n gwybod sut yr oedd y Celtiaid yn byw. Ond, dydyn nhw ddim yn deall cymaint o safiad wnaeth y Celtiaid yn erbyn y Rhufeiniaid a’r Eingl Sacsoniaid.”

Manga

“Mae arddull Manga wedi dod o Japan yn wreiddiol, ac mae’n apelio at blant yn eu harddegau,” meddai.

“Dw i’n hoffi’r ffaith bod ganddyn nhw wallt lliwgar a llygaid mawr – mae’n edrych yn ddeniadol.

“Dw i wedi defnyddio rhai elfennau o’r arddull Manga wrth ddarlunio’r cymeriadau ond  mae gen i fy arddull fy hun hefyd,”  meddai’r artist o Fangor.

Dywedodd ei bod hi wedi “trio ychwanegu tipyn o hiwmor” i’r stori. “Mae hanes Cymru mor dywyll – yn arbennig y cyfnod cynnar”.

“Mae gan y ceffylau eu barn eu hunain am yr hyn sy’n digwydd o’u cwmpas!” meddai.


Sioned Glyn
‘Byd dynion’

“Er mai byd dynion oedd hi yn aml iawn, dw i hefyd wedi cynnwys marched amlwg gan gynnwys Buddug, Brenhines yr Iceni, a Gwenllïan, merch Brenin Gruffudd ap Cynan.

“Mae pawb yn gwybod, y tu ôl i bob dyn da, mae yna ddynes well!

“Dw i hefyd wedi cynnwys cymeriadau dychmygol yn yr hanesion er mwy’n lliwio’r stori a chyfleu bywyd bob dydd.”

Bydd y gyfrol gyntaf yn cael ei lansio yn Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen ar 3 Mawrth ac yn siop llyfrau Palas Print, Caernarfon am  2pm, ar 5 Fawrth.

Dywedodd Sioned Glyn ei bod hi’n gweithio ar yr ail lyfr yn barod.