Mae arolwg yn awgrymu bod eu hiaith genedlaethol yn bwysicach i bobl Lloegr nag i bobl Cymru.

Mae’r arolwg, ar gyfer sefydliad British Future, hefyd yn awgrymu mai’r Cymry sydd fwyaf balch o’u baner genedlaethol o blith gwledydd Prydain, ac mai’r Cymry sydd lleiaf balch o’r Frenhines fel rhan o’u hymdeimlad cenedlaethol.

Cynhaliodd YouGov arolwg o blith 2,600 o oedolion ym Mhrydain, gan gynnwys 565 oedolyn yng Nghymru, ac mae sefydliad British Future wedi cyhoeddi adroddiad o’r arolwg heddiw dan y teitl This Sceptred Isle.

Dywed yr adroddiad bod 89% o bobl Lloegr yn falch o’u hiaith, tra yng Nghymru 78% o bobl Cymru oedd yn falch o’r Gymraeg a 67% o Albanwyr oedd yn falch o’r Aeleg.

Mae balchder ieithyddol yn tueddu i amrywio yn ôl plaid wleidyddol, medd yr arolwg, gyda 68% o gefnogwyr y Ceidwadwyr yng Nghymru yn falch o’r Gymraeg, 81% o gefnogwyr Llafur, 92% o gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol a 95% o gefnogwyr Plaid Cymru.

Cymru yw’r wlad sydd fwyaf balch o’u baner genedlaethol, gyda 86% yn cysylltu’r  Ddraig Goch gyda balchder a chenedligrwydd, o’i gymharu â 61% o Saeson a 84% o Albanwyr ar gyfer eu baneri nhw.

Cymry’n falch o’u timau cenedlaethol

Gall llwyddiant Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fod wedi cael effaith gan mai Cymru yw’r wlad sydd fwyaf balch o’i thimau chwaraeon cenedlaethol – 90% o’i gymharu â 65% yn Lloegr a 68% yn yr Alban.

Mae 78% o bobl Cymru yn falch o’r Eisteddfod Genedlaethol, sy’n fwy o lawer na’r 51% o bobl Lloegr sy’n falch o ŵyl Glastonbury ond yn llai na’r 84% o bobl yr Alban sy’n falch o ŵyl Caeredin.

Mae’r canlyniadau yn awgrymu bod chwarter oedolion Cymru yn cyfrif eu hunain yn Saeson, tra yn yr Alban 11% oedd y ffigwr.

Mae 43% o bobl Cymru yn uniaethu fwy gyda Chymru na gyda Phrydain, sy’n cyfateb gyda 57% sy’n uniaethu fwy gyda’r Alban yn y wlad honno a 37% o Saeson sy’n uniaethu gyda Lloegr cyn Prydain.