Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw bellach yn ystyried tân yng Nghlwb Cymdeithasol Shotton Lane yn achos amheus.
Bu’n rhaid i tua 100 o bobl ffoi eu cartrefi yn Sir y Fflint o ganlyniad i’r tân yn Sir y Fflint ddydd Gwener.
Mae’r heddlu yn parhau i alw am wybodaeth ynglŷn â’r tân yn yr adeilad yn Shotton ychydig wedi 4am.
Dydyn nhw ddim eto wedi penderfynu beth achosodd y tân.
“Mae’r heddlu yn parhau i ystyried yr adeilad yn safle trosedd,” meddai ‘r Ditectif Graham Talbot.
“Mae peiriannydd adeileddol wedi asesu’r adeilad dros y penwythnos ac nid yw’n saff i unrhyw un fynd i mewn.
“Unwaith mae’r safle yn saff fe fydd profion fforensig pellach yn cael eu cynnal.
“Dw i ddim yn gwybod ar hyn o bryd a gafodd yr adeilad ei rhoi ar dân yn fwriadol. Serch hynny ar hyn o bryd rydyn ni’n ystyried yr achos yn un amheus.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu 08456071001.