Llun gan Ymddiriedolaeth Castell Gwrych
Mae yna gynlluniau i drawsnewid castell hanesyddol oedd yn gartref i un o dysywsogion Cymru yn westy pum seren dros y blynyddoedd nesaf.

Castell ym Mwrdeisdref Sirol Conwy, ger Abergele yw Castell Gwrych.

Adeiladwyd y castell cyntaf yno gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif, cyn i Rhys ap Gruffydd ei ail-adeiladau mewn carreg tua 1170.

Cafodd y castell ffug presennol ei adeiladu rhwng 1819 a 1825 gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd arhosodd 200 o ffoaduriaid Iddewig yn y castell. Yn dilyn y rhyfel cafodd ei agor i’r cyhoedd am ugain mlynedd, gan ddenu nifer o ymwelwyr.

Ers hynny mae’r castell wedi dadfeilio ac mae o bellach yn gwbwl wag. Gobaith y perchnogion yw ei droi yn westy 80 ystafell, gan agor ryw ben yn 2014.

Mae’r datblygwyr EPM o Fae Colwyn yn gweithio gyda’r cwmni adeiladu Castell Developments Ltd ac yn gobeithio cynnwys sba, pwll nofio ac ystafell fwyta.

Fe fyddai’r castell ar gael i’w ddefnyddio adeg priodasau ac achlysuron mawr eraill.

Dywedodd EPM eu bod nhw’n gobeithio gwneud cais am ganiatâd cynllunio i Gyngor Sir Conwy o fewn y misoedd nesaf.

Dywedodd Jason Sanderson o’r cwmni wrth bapur newydd y Daily Post eu bod nhw hefyd yn trafod cydweithio fyda clwb golff Abergele.

“Mae yna ddiddordeb mawr mewn datblygu twristiaeth goff yn yr ardal,” meddai.