Mae OFCOM wedi dyfarnu trwydded darlledu i gynllun Radio Beca heddiw, er mwyn darparu gwasanaeth radio Cymraeg newydd ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro.

Daeth y cyhoeddiad gan OFCOM y bore ’ma, ac mae’r rheiny tu ôl i’r cynllun eisoes yn rhoi paratoadau yn eu lle i gynllunio’r ffordd ymlaen.

“Ma’ gyda ni dwy flynedd i sefydlu’r gwasanaeth nawr,” meddai Geraint Davies, sy’n aelod o’r grŵp tu ôl i Radio Beca.

“Mae e’n gyhoeddiad cyffrous i ni gyd.”

Mae trwyddedau radio cymunedol yn cael eu gwobrwyo gan OFCOM ar sail cynlluniau di-elw er mwyn “darparu manteision penodol i gymuned ddaearyddol arbennig neu ddiddordeb cymunedol.”

Ond dyma’r tro cyntaf i gais am radio cymunedol gael ei ganiatau am wasanaeth fyddai’n ymestyn ar draws tair sir.

“Mae hyn yn gam chwyldroadol gan OFCOM,” meddai Geraint Davies.

Dywedodd OFCOM heddiw fod y drwydded wedi ei gwobrwyo i Radio Beca am gyfnod o bum mlynedd.

‘Anfodlonrwydd’

Grŵp o Gymry’r ardal sydd tu ôl i brosiect Radio Beca, gyda chynrychiolwyr o Gyfeillion Radio Ceredigion, Cwmni Cydweithredol Theatr Troed y Rhiw, Mentrau Iaith leol a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi dod at ei gilydd er mwyn cynnig radio cyfrwng Cymraeg yn y de orllewin.

Yn gefndir i’r cynllun i sefydlu Radio Beca y mae’r anfodlonrwydd gyda darpariaeth Radio Ceredigion, ers i Town and Country Broadcasting brynnu’r orsaf.

Mae cwynion wedi bod nad yw’r cwmni yn cadw at y drwydded oedd yn mynnu rhaglenni hanner-a-hanner Cymraeg/Saesneg.

Ddechrau mis Medi daeth cyhoeddiad bod Ofcom yn bwriadu rhoi’r hawl i Town and Country geisio am drwydded newydd ar gyfer darparu radio masnachol yng Ngheredigion, heb unrhyw amod iaith yn perthyn i’r drwydded.

Mae Cyfeillion Radio Ceredigion hefyd wedi gwneud cais am y drwydded hon – ond mae disgwyl clywed yn ystod yr wythnosau nesaf beth fydd tynged y cais hwnnw.