Nikitta Grender
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth merch feichiog 19 oed wedi dweud eu bod nhw’n credu bod y drosedd yn un “lleol”.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent eu bod nhw’n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl i archwiliad post-mortem ddangos fod Nikitta Grender wedi ei thrywanu.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Geoff Ronayne mai dyma un o’r “troseddau fwyaf erchyll” iddo ei weld erioed.

“Rydyn ni’n credu bod y trosedd yn un lleol,” meddai. “Mae rhywun yn gwybod ble mae’r gyllell ac rydyn ni’n annog y person hwnnw i gysylltu gyda ni.

“Mae rhywun yn gwybod pwy sy’n gyfrifol.”

Y cefndir

Roedd gan y ferch 19 oed bythefnos ar ôl cyn rhoi genedigaeth i ferch fach ac mae cyfeillion wedi talu teyrnged iddi gan ddweud y byddai hi wedi bod yn “fam wych”.

Cafodd Gwasanaeth Tân De Cymru a Heddlu Gwent eu galw i’r fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, am 7.50am ddydd Sadwrn.

Daeth diffoddwyr hyd at o hyd i gorff Nikitta Grender yn ystafell wely’r fflat ar y llawr cyntaf.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw wedi dod o hyd i’r arf eto. Maen nhw’n credu ei bod hi wedi ei thrywanu â chyllell.

Facebook

Mae sawl un o ffrindiau Nikitta Grender wedi talu teyrnged iddi ar ei thudalen Facebook.

“Rydw i wedi dychryn dy fod ti wedi mynd! Roeddet ti’n ferch bert iawn â gwen ar dy wyneb bob tro,” meddai Chloe Flage-Swift.

“Fe fyddet ti wedi bod yn fam wych i dy ferch fach.”

Dywedodd Sian Phillips fod Nikitta “yn ferch brydferth” ac nad oedd hi’n “haeddu hyn”.

“Fe fyddwn ni yn gweld dy eisiau di ac rydyn ni’n dy garu di,” ysgrifennodd Emma Hazlehurst, modryb Nikitta Grender.

“Nos da Kitta. Cariad mawr gen i ac ewyrth Rich.”

‘Dideimlad’

“Roedd hon yn drosedd erchyll ac mae dau fywyd diniwed wedi eu colli,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Geoff Ronayne.

“Roedd Nikitta o fewn pythefnos i roi genedigaeth i ferch fach. Mae hon yn drosedd arbennig o ddideimlad ac yn rhywbeth nad ydyn ni’n ei weld yn aml.

“Roedd teulu Nikitta wedi bod yn edrych ymlaen at enedigaeth y babi a nawr maen nhw wedi torri eu calonnau.”

McDonalds

Dywedodd fod Nikitta Grender wedi bod allan gyda ffrindiau bnawn Gwener ac wedi galw mewn McDonalds yn ardal Spytty yn ystod y prynhawn.

Maen nhw’n annog unrhyw un oedd yn ardal 51 Broadmead Park, neu a welodd Nikitta Grender o 7pm dydd Gwener ymlaen, i gysylltu gyda nhw.

“Mae rhywun yn gwybod pwy wnaeth hyn ac rydyn ni’n annog aelodau o’r gymuned i gysylltu gyda ni,” meddai.

Dywedodd fod mwy na 50 o swyddogion yr heddlu yn gweithio ar yr achos.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 01443 865562 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.