Jonathan Edwards
Fe fydd Plaid Cymru a’r SNP yn galw heddiw am drefn newydd i reoli pris petrol, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r ddwy blaid genedlaethol yn defnyddio dadl yn Nhŷ’r Cyffredin i ofyn am greu trefn o reoli’r dreth ar danwydd er mwyn lleihau effaith cynnydd sydyn ym mhris olew.

Fe fyddan nhw hefyd yn gofyn am fwy o degwch prisiau i ardaloedd gwledig sydd, medden nhw, yn diodde’n neilltuol.

Mae’r Llywodraeth yn Llundain eisoes yn ystyried ‘rheoleiddiwr pris’ ar gyfer tanwydd – dyfais a fyddai’n golygu bod y dreth yn mynd i lawr wrth i brisiau godi, er mwyn cadw prisiau’n sefydlog.

Mae disgwyl y bydd rhyw fesur yn cael ei gynnwys yn y Gyllideb nesa’ ac mae galw ar y Canghellor i beidio â chodi’r dreth ar danwydd ym mis Ebrill.

Dim cost fawr

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards, wedi gwadu y byddai trefn felly’n costio’n ddrud.

Ei ddadl yw bod cynyddu trethi ar danwydd yn golygu fod gan bobol lai o arian i’w wario ar bethau eraill sydd hefyd yn cyfrannu arian treth.