Rhodri Williams ac Emma Walford
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd newidiadau i raglen nosweithiol ‘Heno’ ym mis Mai, yn dilyn ymateb a sylwadau gan wylwyr yn ystod wythnosau cynta’r rhaglen newydd.

Dywedodd Tinopolis ac S4C eu bod nhw wedi gwrando ar y sylwadau ac wedi penderfynu gwneud newidiadau i gynnwys ac arddull y rhaglen.

Fel rhan o’r newid, bydd swyddfa Tinopolis yng Nghaernarfon yn ail agor gyda’r bwriad o sicrhau presenoldeb cyson o’r Gogledd a’r Canolbarth.

Fe fydd y newidiadau yn “rhoi llawer mwy o bwyslais ar gael perthynas agos gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru ac adlewyrchu gweithgaredd cymunedol”.

“Bydd llai o bwyslais ar gynnwys stiwdio a mwy ar gyfleu’r hyn sy’n digwydd  ym mhob cwr o Gymru. Bydd cyhoeddiad pellach gyda mwy o fanylion yn agosach at y dyddiad,” meddai llefarydd.”

Bydd rhai newidiadau hefyd i’r rhaglen brynhawn ‘Prynhawn Da’, eto i ymateb i sylwadau’r gwylwyr.

Fis yn ôl cyhoeddodd Awdurdod S4C eu bod nhw wedi cynnal trafodaeth estynedig ar yr ymateb i Heno, a ddisodlodd Wedi 7.

Dywedodd awdurdod y sianel bod aelodau’r Awdurdod yn rhannu’r pryderon a fynegwyd gan nifer fawr o wylwyr ynglŷn â’r rhaglen a lansiwyd ar 1 Mawrth.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, bryd hynny fod yna bellach bryderon ymysg gwylwyr ynglŷn â safon gwasanaeth S4C.

Daeth sylwadau’r awdurdod wedi i gadeirydd y cwmni sy’n cynhyrchu Heno ddweud wrth gylchgrawn Golwg fod rhaglen Heno mewn perygl o “ladd” y Sianel.

Yn y cyfweliad dywedodd Ron Jones o Tinopolis nad oes dyfodol i’r Sianel os bydd hi’n parhau gyda Heno a’i thebyg, ond ei fod yn ffyddiog y bydd yna dro pedol ac y daw rhaglen sydd at ddant y Cymry Cymraeg.

Roedd yn rhoi’r bai am Heno ar gynnwys y ddogfen Gweledigaeth S4C 2012-2015 gafodd ei chyhoeddi y llynedd mewn ymateb i’r cwtogi garw ar gyllideb y Sianel.