Y brotest yn Palma, Mallorca
Mae dau bensiynwr o ynys Mallorca wedi bod yn ymprydio dros hawliau’r iaith Gatalaneg.

Dechreuodd Tomeu Amengual ei ympryd ar Fawrth 26 ar ôl i bensiynwr arall, Jaume Bonet, roi’r gorau i’w ympryd yntau dros y Gatalaneg ar ôl cael cyngor gan feddygon.

Mae anniddigrwydd ers i lywodraeth newydd ceidwadol Ynysoedd Baleares – sef Mallorca, Minorca ac Ibiza – ddweud nad oes rhaid medru siarad Catalaneg er mwyn cael swydd yn y sector cyhoeddus.

Cafodd rali fawr ei chynnal yn Palma de Mallorca er mwyn dangos cefnogaeth i’r ddau bensiynwr ac i leisio barn am statws y Gatalaneg yn yr ynysoedd.

‘Ymosod ar yr iaith’

Tra bod gan y Gatalaneg statws uchel yng Nghatalonia ei hun mae ymgyrchwyr yn bryderus bod yr awdurdodau cyhoeddus yn Ynysoedd Baleares ac yn Valencia yn ymosod ar yr iaith. Yn ddiweddar ataliodd yr awdurdodau signal y sianel deledu Gatalaneg TV3 rhag cyrraedd Valencia.

Dywedodd un ymgyrchydd, Dr Josep Anton Fernandez, o Brifysgol Agored Catalonia: “Does dim byd newydd am yr ymosodiadau hyn. Bydd cenedlaetholdeb Sbaen yn parhau i geisio ein cymhathu ni Gatalanwyr. Ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio i sicrhau mai’r Gatalaneg yw iaith gyffredin ein dinasyddion ni.”