David Cameron
Mae disgwyl y bydd gan Gaerdydd ran bwysig i’w chwarae wrth ddenu buddsoddiad newydd o Japan heddiw.

Y gobaith yw y bydd cwmni Panasonic yn agor canolfan ymchwil a datblygu celloedd tanwydd newydd yn y brifddinas, fel rhan o fuddsoddiad gwerth £200 miliwn gan gwmniau o Japan ym Mhrydain, dros y blynyddoedd nesaf.

Daw’r newyddion wrth i Brif Weinidog Prydain ddechrau ar ei daith fasnach i Japan. Yr ymweliad â Japan yw’r cyntaf ar daith  y Prif Weinidog â De Ddwyrain Asia. Roedd y daith i Japan i fod i gael ei chynnal yn yr Hydref, ond cafodd ei hail-drefnu yn sgil argyfwng yr Ewro.

‘Newyddion anhygoel’

Y gred yw y bydd David Cameron yn cyhoeddi’r cynlluniau ar gyfer Caerdydd fel rhan o gyfres o fuddsoddiadau gan gwmniau o Japan ym Mhrydain, a fydd yn creu 1,500 o swyddi newydd, ac yn sicrhau dyfodol miloedd yn rhagor.

Bydd David Cameron yn ymweld â phencadlys Nissan yn Yokohama yfory, lle mae disgwyl i’r cwmni ceir enfawr gyhoeddi bod eu ffatri yn Sunderland yn mynd i fod yn cynhyrchu math newydd o’u ceir yno o 2014 ymlaen.

Mae hefyd disgwyl y bydd prosiect newydd gan gwmni Mitsubishi i adeiladu math newydd o eneradur ar gyfer tyrbeini gwynt yn mynd i Gaeredin.

“Mae’n newyddion anhygoel,” meddai David Cameron. “Mae’n dystiolaeth o gryfder a bywiogrwydd diwydiannau Prydain.”

Yn ôl y Prif Weinidog, mae’n gobeithio y bydd cyfle i gwmniau o’r DU sicrhau cytundebau yn niwydiant amddiffyn Japan am y tro cyntaf yn ystod ei ymweliad – diwydiant sydd hyd yma wedi bod yn gaeedig i gwmniau tramor.

Dywedodd David Cameron ei fod hefyd yn ceisio hyrwyddo arbenigedd dadgosmisiynu niwclear Prydain tra  yn y wlad, wrth i Japan geisio clirio llanast y daeargryn enfawr a darodd y wlad llynedd.