Meri Huws
Mae Comisiynydd newydd y Gymraeg wedi gwneud yn glir y gallai alw am gosbau llymach ar gyrff a chwmnïau sy’n torri Safonau Iaith.
Yn ôl Meri Huws, os na fydd dirwy o £5,000 yn ddigon, fe fydd hi’n gofyn am bwerau cryfach i sicrhau bod cwmnïau’n cadw at orchmynion i ddefnyddio’r Gymraeg.
Fe ddywedodd hefyd y gallai fod yn dweud wrth rai cyrff faint o ganran o siaradwyr Cymraeg y dylen nhw eu cyflogi.
“Nid y Comisiynydd benderfynodd ar lefel y gosb,” meddai ar y rhaglen radio, Dan yr Wyneb. “Os nad yw’r gosb ar y lefel yna’n gweithio, fe fydd yna argymhellion.”
Penderfynu ar gwmnïau
Ar hyn o bryd, mae hi a’i staff yn ceisio creu’r safonau sy’n penderfynu ar bolisïau iaith gwahanol fathau o gyrff a chwmnïau ac maen nhw’n penderfynu pa gwmnïau sy’n dod dan adain Mesur y Gymraeg.
Fe addawodd Meri Huws y byddai’n “ddyfeisgar” wrth ddefnyddio’i phwerau gyda chwmnïau sy’n cael eu cynnwys – er enghraifft rhai sy’n derbyn mwy na £400,000 o arian cyhoeddus.
Nid dim ond arian Llywodraeth y Cynulliad fyddai hynny, meddai, ond unrhyw arian cyhoeddus ac fe addawodd y byddai’r Safonau newydd yn gallu mynd ymhell.
“Dw i’n gallu rhagweld safon sy’n dyfarnu i gorff pa fath o lefel o gyflogaeth i Gymry Cymraeg sydd ei angen ar y sefydliad yna.”