Y Prif Weinidog David Cameron
Ymosod ar record Llafur mewn Llywodraeth yng Nghymru, a chyfiawnhau record clymblaid San Steffan oedd prif neges David Cameron yng Nghymru heddiw.

Roedd y Prif Weinidog yn Llandudno heddiw ar gyfer lansiad swyddogol ymgyrch y Ceidwadwyr Cymreig, ac roedd ganddo eiriau o anogaeth i aelodau ei blaid yr ochr hon i Glawdd Offa.

Roedd ganddo dair brif neges ar gyfer ei wrandawyr – negesuon yr oedd yn gofyn iddyn nhw eu lledaenu.

“Mae angen i ni weiddi’n uchel ac yn falch ynglŷn â’r hyn rydyn ni wedi ei wneud dros bobol,” meddai. “Mae’n rhaid i ni gael ein hymgyrchwyr ni allan, o Sir Drefaldwyn i Aberconwy, o Gaerdydd i Fro Morgannwg,.

Y neges gyntaf, yn ôl y Prif Weinidog, oedd record y Ceidwadwyr mewn llywodraeth leol, ac yn llywodraeth Prydain, gan gynnwys torri’r ddyled, y ddyled “o faint yr Wyddfa”.

Ei ail neges oedd mai’r Ceidwadwyr oedd y blaid i “osod yr agenda ar gyfer newid radical. Newid sy’n mynd i dorri Cymru’n rhydd o’r methiant a’r hunanfodlondeb y mae wedi gorfod ei ddioddef am gymaint o flynyddoedd yn nwylo’r chwith.”

‘Cyfle am newid’

Dywedodd mai Llafur yng Nghymru oedd y “status quo” –  ond bod eleni’n gyfle i newid hynny gyda chynlluniau’r blaid ar gyfer Cymru.

Y drydedd neges, a’r un “fwyaf”, meddai oedd fod y Ceidwadwyr nawr yn Rhif 10, a’u bod nhw’n barod i newid pethau.

“Wrth inni wneud penderfyniadau anodd, mae’r Llywodraeth hon yn buddsoddi mewn seilwaith pwysig yng Nghymru,” meddai.

“Rydyn ni’n gwneud Caerdydd yn ddinas â band-llydan eithriadol o gyflym, ac rydyn ni’n trydaneiddio prif reilffordd y Great Western i Gaerdydd,” meddai, gan awgrymu’n gryf y gallai rhai o reilffyrdd y Cymoedd hefyd gael eu trydaneiddio.

“Rydyn ni’n edrych ar yr achos busnes dros drydaneiddio’r cledrau cymudo i’r Cymoedd,” meddai. “Mae rhai manylion i’w penderfynu a chytundebau angen eu gwneud gyda Llywodraeth Cymru.”