Mae arolwg barn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw’n dangos cefnogaeth sylweddol ymysg pobl Cymru i’r syniad o roi’r pwerau i Lywodraeth Cymru amrywio trethi incwm.

Mae bron i hanner poblogaeth Cymru (46%) yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau o’r fath, tra bod dros draean (36%) yn erbyn y syniad.

Cafodd 1,007 o oedolion dros 16 oed yng Nghymru eu holi ‘A ddylai Llywodraeth Cymru gael y pwerau i amrywio trethi incwm?’ yn ystod arolwg barn diweddaraf y cwmni Beaufort, a gynhaliwyd yn ystod mis Mawrth.

Mae mwy o blaid i’r Llywodraeth gael pwerau amrywio trethi incwm nac sydd yn erbyn ym mhob rhan o Gymru, ac eithrio Caerdydd a’r De-ddwyrain, lle roedd 37% o’i blaid a bron i hanner – 48% – yn erbyn y syniad.

Roedd mwy hefyd o’r rhai hynny yng ngrŵp economaidd-gymdeithasol AB (hynny yw rhai hynny mewn swyddi rheoli uwch, proffesiynol a gweinyddol) yn erbyn nac o blaid. Ar y llaw arall, roedd mwy o blaid nag yn erbyn ymhlith yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol eraill oddi fewn i boblogaeth Cymru.

Y rhai a oedd fwyaf tebygol o gefnogi pwerau amrywio trethi i Lywodraeth Cymru oedd siaradwyr Cymraeg (55% o blaid) a’r rhai hynny sy’n byw yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru.