Y Prif Weinidog David Cameron (o wefan Rhif 10)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron yng Nghymru heddiw i annog pobl i gefnogi’r Blaid Geidwadol yn etholiadau’r cynghorau sir ddechrau’r mis nesaf.

Bydd yn treulio’r bore yn y de – does dim manylion eto ynghylch yr union leoliadau – cyn annerth cefnogwyr a gweithwyr ei blaid yn y gogledd.

Wrth edrych ymlaen at yr etholiadau bedair wythnos i heddiw, meddai’r Prif Weinidog:

“Yn yr etholiadau lleol hyn yng Nghymru, mae fy neges i’n glir – peidiwch â gadael i Lafur wneud i’ch cyngor yr hyn a wnaethon nhw i’r wlad.

“Y Ceidwadwyr yng Nghymru sy’n cynnig gwerth am arian, torri’r gwastraff fel ein bod ni’n cadw’r trethi cyngor i lawr gan ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus gorau’r un pryd.”

Yn ystod ei ymweliad fe fydd hefyd yn cyfiawnhau rhai o bolisïau amhoblogaidd y Llywodraeth yn Llundain ar dorri ar wariant.

“Yr hyn y mae angen inni ei ddweud wrth bobl yw ein bod ni’n llywodraeth sy’n edrych ar y gorwel, nid ar y penawdau, sydd â’i bryd ar weithio er mwyn lles hirdymor, nid poblogrwydd tymor byr, sy’n gweithio er budd y wlad, nid er budd plaid,” meddai.