Carwyn Jones
Mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn drwch ar hyd strydoedd Caerdydd heddiw, wrth i’r ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r cynghorau lleol ddechrau o ddifrif.

Lai na dwy awr wedi i’r enwebiadau gau am ymgeiswyr i wardiau’r ddinas, roedd Prif Weinidog Cymru yn annog tyrfaoedd y brifddinas i fenthyg eu pleidlais i Lafur ar 3 Mai.

Ac yn ôl Carwyn Jones, mae pobol Cymru wedi colli ffydd ym mhrif elyn Llafur yn y ddinas, y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond roedd y Democratiaid eu hunain wedi bod wrthi ers ben bore, gyda’u Gweinidog Busnes, Menter a Sgiliau yn San Steffan, Vince Cable, ar y palmentydd ers naw y bore.

Caerdydd yw un o dargedau mawr y Blaid Lafur ar ôl iddyn nhw golli tir ar Gyngor y Ddinas y tro diwetha’. Un o’r lleill yw Abertawe ac yn y ddau le, y targed yw’r Democratiaid.

Mae’r Cyngor yn cael ei reoli gan glymblaid o’r Democratiaid a Phlaid Cymru ar hyn o bryd, – roedd plaid Vince Cable wedi cipio 34 o seddi yn 2008.

Dim siom arall – addewid Carwyn

Roedd yr etholiadau hynny’n rhai siomedig iawn i Lafur yng Nghaerdydd, gan ddisgyn o’r ail safle, gyda 27 o seddi, i’r trydydd safle, gydag dim ond 13 – a hynny dros nos.

Ond wrth annerch ei gynulleidfa yng Nghaerdydd yn ystod taith wib ar draws de Cymru heddiw, dywedodd Carwyn Jones na fyddai ail-fyw siom 2008 eleni.

Wrth guro drysau yn Abertawe, Merthyr a Chaerdydd heddiw, mae’r neges yn un glir – does gan bobol ddim ffydd yn y Dems Rhydd, ac maen nhw’n cefnogi Llafur i sefyll fyny dros eu cymunedau lleol ar 3 Mai,” meddai.

Gwobr am waith lleol – dymuniad Vince

Ond roedd Vince Cable yn hyderus y byddai ei blaid yn dal ei thir eleni, a hynny yn y ddau Gyngor fwyaf yng Nghymru lle maen nhw’n rheoli trwy glymblaid – sef Caerdydd ac Abertawe.

“Er bod bod rhai o’r pryderon ynglŷn â llywodraeth glymblaid y DU wedi cael eu hadlewyrchu yn rhai o’r canlyniadau a gawson ni yn Lloegr y llynedd, dw i’n meddwl bod llawer gwell cydbwysedd o ddealltwriaeth erbyn hyn ynglŷn â’r hyn yr ’yn ni’n ceisio’i gyflawni,” meddai Vince Cable.

“Dw i’n gobeithio y bydd ein perfformiad da ni mewn llywodraeth leol yn cael ei wobrwyo, ac rwy’n hyderus y bydd hynny yn digwydd.”