Nathan Flanagan (llun cyhoeddusrwydd)
Yng Nghymru y mae’r ymgeisydd ieuengaf yn yr etholiadau lleol trwy wledydd Prydain.

Ac, os bydd yn ennill, fe fydd Nathan Flanagan o Gaerffili’n dod yn gynghorydd ieuenga’r pedair gwlad.

Mae Nathan Flanagan, sy’n 18 oed, wedi cael ei ddewis gan Blaid Cymru i sefyll yn ward Moriah, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn etholiadau lleol 3 Mai.

‘Diddordeb ers blynyddoedd’

Yn ôl y myfyriwr, mae wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers pan oedd yn 11 oed, ac mae’n dweud ei fod eisiau cynrychioli llais yr ifanc ar y cyngor lleol.

Mae’r cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, sydd bellach yn gwneud cwrs plymio yn Ystrad Mynach, yn dweud ei fod “eisiau cymryd mwy o ran yn y gymuned dw i’n byw ynddi”.

Mae Nathan Flanagan hefyd wedi cael ei ddewis yn Llysgennad Ieuenctid y Deyrnas Unedig yng Nghymru am eleni.

Neges Nathan

“Ro’n i eisiau cynrychioli barn y bobol ifanc, ac felly fe wnes i ymuno â’r fforwm ieuenctid a mynd o fan hynny,” meddai Nathan Flanagan.

“Dw i wedi mwynhau hyrwyddo achos pobol ifanc, a nawr dwi eisiau ennill sedd ar y Cyngor fel fy mod i’n gallu cynrychioli’r gymuned yn ei chyfanrwydd.

“Fe fydda i’n ymgyrchu dros gael gwell cyfleusterau i’r ifanc, fel bod pobol ifanc yn gallu gwneud mwy o bethau yn yr ardal, a bydd hynny’n dod â manteision i’r gymuned yn ei chyfanrwydd.

“Dwi’n meddwl y dylai cynrychiolwyr lleol fod yn gymysgedd o bobol o bob oed,” meddai.