Fydd Llywodraeth Prydain ddim yn gorfodi cyflogau is ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, meddai’r Gweinidog Busnes Vince Cable.

Roedd adroddiadau ynglŷn â’r cynlluniau am drefn gyflogau ranbarthol wedi cael eu gorliwio’n ddychrynllyd, meddai wrth ymweld â Chaerdydd.

“Does dim peryg y bydd y Llywodraeth yn gorfodi cyflogau is yn y sector cyhoeddus yng Nghymru neu rannau eraill o’r Deyrnas Unedig lle mae cyflogau’n is,” meddai wrth Radio Wales.

Cynlluniau lleol

Ond fe gadarnhaodd bod Llywodraeth San Steffan yn ystyried cynlluniau am gyflogau rhanbarthol mewn rhai amgylchiadau mewn rhai ardaloedd. Yr addewid oedd na fyddai yna drefn gyffredinol yn cael ei gosod ar draws y wlad.

Er enghraifft, meddai, pe bai prinder athrawon mewn un ardal, fe allai cyflogau gael eu codi yno i ddenu rhagor.

Ond mae undebau athrawon eisoes wedi gwrthwynebu’r bwriad – fe rybuddiodd undeb yr ATL heddiw y byddai’n arwain at lif o athrawon o Gymru.

Doedd y manylion ddim wedi eu penderfynu eto, meddai Vince Cable, ond fe addawodd y byddai’r drefn yn cael ei sefydlu trwy “gonsensws a chytundeb” pobol yn y sector cyhoeddus.