Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig a’u mab dwy oed.

Cafodd David Wyn Jones, 42 oed, ei gadw yn y ddalfa yn dilyn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon.

Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Suzanne Jones, 34, a William Jones yn eu cartref yn Nhremadog.

Siaradodd David Wyn Jones i gadarnhau ei enw, ei oed a’i gyfeiriad. Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon brynhawn ma.

Doedd yna ddim cais am fechniaeth.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Deras Glanmorfa am 9.20pm ddydd Gwener a darganfod fod y ddau wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae gan y pâr priod hefyd ddwy ferch, Antonia ac Amy.

Datganiad

“Mae ein meddyliau ni a’n cydymdeimladau â theulu a ffrindiau Suzanne a William yn ystod y cyfnod anodd yma,” meddai’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Neill Anderson, cyn y gwrandawiad.

“Mae aelodau’r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig ac rydw i’n gofyn fod pobol yn parchu eu preifatrwydd nhw.

“Bydd David Wyn Jones yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.

“Dyw Heddlu Gogledd Cymru ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.”