Dim ond dau o’r 22 cyngor sydd yng Nghymru sydd wedi cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn parciau chwarae, yn ôl arolwg newydd.

Cyhoeddodd elusen Ash y canlyniadau ar bumed pen-blwydd y gyfraith sy’n gwahardd ysmygu mewn parthau caeedig.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r llynedd eu bod nhw’n bwriadu “gweithio ar y cyd” ag awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflwyno parciau chwarae ddi-fwg.

Yn ôl yr arolwg, dim ond cynghorau Powys a Chaerffili sydd wedi cyflwyno’r gwaharddiad.

Mae’r grŵp o blaid tobacco, Forest, wedi mynnu bod gwahardd ysmygu y tu allan “yn mynd yn rhy bell”.

Ond dywedodd prif weithredwr Ash,  Elen de Lacy, y byddai o gymorth wrth atal pobol ifanc rhag dechrau ysmygu.

“Rydyn ni’n gwybod bod mwg ail-law yn peryglu iechyd plant a’u bod nhw’n fwy tebygol o ddechrau ysmygu eu hunain os ydyn nhw’n gweld oedolion yn ei wneud mewn cyd-destun teuluol,” meddai Elen de Lacy.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n lleihau nifer y bobol ifanc sy’n dechrau ysmygu.”

‘Dim newid’

Er gwaethaf holl ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog pobol i roi’r gorau i ysmygu, mae ffigyrau yn dangos nad yw nifer yr ysmygwyr yng Nghymru wedi newid braidd dim ers canol y 2000au.

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn parthau caeedig, yn 2007.

Mae’r arolwg diweddaraf gan Arolwg Iechyd Cymru yn dangos bod 23% o oedolion yn ysmygu “yn ddyddiol neu’n achlysurol”.

Yn 2007 roedd 24% o oedolion yn gwneud hynny.