Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud eu bod nhw’n “dymuno’n dda” i Meri Huws wrth iddi gychwyn ei swydd newydd fel y Comisiynydd cyntaf dros y Gymraeg.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod ganddi “gyfle euraidd” i wneud newidiadau er lles yr iaith.

“Gobeithiwn y bydd yn cymryd y cyfle i wneud y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg,” meddai Bethan Williams.

“Gyda chonsensws traws-bleidiol ac ymysg cymdeithas sifil dros sefydlu’r swydd, mae gyda hi gyfle euraidd i ddechrau o’r newydd a sicrhau fod y sytem newydd hon yn blaenoriaethu pobl.

“Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur Iaith, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a’r Llywodraeth gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Gwahaniaeth a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

“Dylem weld gwelliannau sylweddol i wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn addysg Gymraeg.”

‘Hawliau’

Dywedodd ei bod yn gobeithio na fydd y Comisiynydd yn dilyn yn ôl traed Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
“Rydym yn disgwyl i’r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o’r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion,” meddai.

“Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau.

“Mae hefyd angen iddi daclo’r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg.

“Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o’r Gymraeg yn fewnol; mae hwn yn faes nad yw’r Cynulliad na’r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd.”