Meri Huws
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, wedi croesawu Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, ar ei diwrnod cyntaf.

Daeth Bwrdd yr Iaith i ben dros y penwythnos, a bydd ei gyfrifoldebau yn cael ei rannu rhwng y Comisiynydd Iaith newydd a Llywodraeth Cymru.

“Dyma ddiwrnod arwyddocaol iawn i ddyfodol y Gymraeg,” meddai Leighton Andrews.

“Bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg rôl allweddol wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau bod yr iaith yn parhau’n iaith egnïol a ffyniannus.

“Bydd hi’n hyrwyddwr cadarn ac egnïol dros y Gymraeg – ac yn cydweithio â sefydliadau er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg.

“Bydd hefyd yn creu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd.”

Diolch i’r Bwrdd

Dywed Leighton Andrews y bydd nifer o gyfrifoldebau am hybu’r Gymraeg hefyd yn trosglwyddo i’w adran ef.

Fe fydd yn sicrhau bod yr iaith “yn parhau i ddatblygu,” meddai.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Bwrdd am ei waith caled a’i gyfraniad arloesol dros y blynyddoedd,” meddai.

“Rwy’n benderfynol o adeiladu ar y gwaith hwnnw, gan ddatblygu’r iaith ymhellach. Mae’n rhaid i bob un ohonom dderbyn cyfrifoldeb am hybu’r defnydd o’r iaith.

“Bydd ein His-adran y Gymraeg ar ei gwedd newydd yn cydweithio â nifer fawr o bartneriaid mewn modd creadigol a rhagweithiol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu.”

Pwy sy’n gwneud beth?

O dan y trefniadau newydd a ddaw i rym heddiw, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn:

• canolbwyntio ar y system reoleiddio newydd, gan ddatblygu a gosod safonau, datblygu codau ymarfer a sefydlu trefn orfodi newydd, gan barhau i weithredu system y cynlluniau iaith Gymraeg yn y cyfamser

• monitro perfformiad cyrff yn unol â’r dyletswyddau sydd arnynt

• ymdrin â chwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd ynghylch unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau

• cynghori sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector nad yw’r dyletswyddau statudol a bennir ym Mesur y Gymraeg yn berthnasol iddynt ynghylch arferion da a hybu’r arferion da hynny

• darparu sylfaen o ymchwil ac ystadegau ar gyfer adroddiadau 5 mlynedd y Comisiynydd ynghylch sefyllfa’r Gymraeg ac ymchwilio i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r iaith

• cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion polisi a materion eraill sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg

• craffu’n annibynnol ar bolisïau Llywodraeth Cymru ac ymateb i ddogfennau ymgynghori

• datblygu’r seilwaith er mwyn helpu pobl eraill i ddarparu gwasanaethau Cymraeg (ee mewn perthynas â therminoleg a chyfieithu)

• ymdrin â cheisiadau ynghylch ymyriadau honedig â rhyddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.

Bydd Llywodraeth Cymru, drwy ei His-adran newydd ar gyfer y Gymraeg, yn:

• rheoli’r rhaglen grantiau Cymraeg (sy’n cynnwys grantiau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Mentrau Iaith)

• rheoli prosiectau sy’n cefnogi’r iaith, gan gynnwys y rhai a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg (ee prosiect Twf)

• gweinyddu’r broses o baratoi is-ddeddfwriaeth a fydd yn cynnwys deddfwriaeth ynghylch safonau iaith a argymhellwyd gan y Comisiynydd, yn unol â Mesur y Gymraeg.

• gweithredu Strategaeth y Gymraeg.

• gweithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

• goruchwylio’r modd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg

• gweinyddu’r cyllid ar gyfer y gwasanaeth Athrawon Bro, sydd bellach yn rhan o’r Grant Cymraeg mewn Addysg, a’r Mudiad Meithrin

• cynrychioli Cymru ar rwydweithiau rhyngwladol a ffrwd waith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ynghylch ieithoedd lleiafrifol.