Mae gwylwyr y glannau wedi rhybuddio plymwyr ar ôl i ddyn ddioddef o’r ‘bends’ yn Sir Benfro.

Dywedodd gwylwyr y glannau y dylai plymwyr ddod yn ôl i’r wyneb yn achlysurol er mwyn osgoi dioddef o’r cyflwr.

Mae dod yn ôl i’r wyneb yn rhy gyflym yn gallu achosi salwch datgywasgiad. Mae swigod nwy yn ffurfio yn y corff sy’n gallu bod yn beryglus iawn a hyd yn oed achosi marwolaeth.

“Rydyn ni’n cynghori plymwyr i gynllunio pryd y maen nhw’n mynd i ddatgywasgu o flaen llaw, a glynu atyn nhw,” meddai llefarydd.

“Fe allai unrhyw ddeifiwr sydd wedi gochel rhag atal er mwyn datgywasgu ddioddef o’r salwch.”

Daw’r rhybudd ar ôl i ddeifiwr arall ddioddef o’r cyflwr yn Llyn St Johns yn Plymouth yn sir Dyfnaint.

Cafodd y plymwyr eu trin yn y Ganolfan Ymchwilio i Glefydau Plymio yn Plymouth. Mae ganddyn nhw siambr ocsigen arbennig er mwyn trin plymwyr sy’n dioddef o’r clefyd.