Grant Vidgen a Berwyn Rowlands
Mae S4C wedi datgelu y bydd cwpwl hoyw yn ymddangos am y tro cyntaf erioed ar y gyfres eiconig Sion a Siân sy’n dychwelyd i’r sgrin fach yn fuan.

Mi fydd Berwyn Rowlands a Grant Vidgen yn ymddangos ar y rhaglen nos Sadwrn, 14 Ebrill. Bydd y gyfres newydd yn dechrau’r wythnos ynghynt, ar y 7fed.

“Mi fydd y gyfres yn cynnwys elfennau ffres newydd sy’n rhoi tro bach difyr i’r fformat cyplau poblogaidd,” meddai llefarydd ar ran S4C.

Mi gafodd Sion a Siân ei darlledu’n gyntaf ym 1964, a hynny ar sianel TWW. Ymysg y cyflwynwyr sydd wedi ymddangos ar y gyfres mae Dai Jones, Llanilar.

Y cyflwynwyr ar y fersiwn newydd yw Stifyn Parry a Heledd Cynwal. Meddai Stifyn, “Y cystadleuwyr ydy gwir sêr y sioe. Pobol o bob cwr o Gymru, o bob rhywioldeb ac o bob oed, a drwy ateb un cwestiwn fe allan nhw ennill £1,000. Dyna sydd yn ei gwneud hi mor ddifyr.”

“Yng Nghymru, mae gan y gyfres draddodiad pwysig gan iddi gael ei darlledu yma cyn i’r fersiwn Saesneg Mr a Mrs gael ei darlledu ar draws Prydain,” ychwanegodd.

Mae Berwyn Rowlands a Grant Vidgen wedi bod mewn partneriaeth sifil ers chwe blynedd, ac maen nhw’n byw yng Nghaerdydd. Mae Grant yn gweithio fel ymgynghorydd TG gyda chwmni Capita, ac mae Berwyn yn rhedeg cwmni o’r enw The Festival Company.

Meddai Berwyn, “Dydych chi byth yn adnabod unrhyw un cant y cant – a dyma ein cyfle i ddysgu rhywbeth am ein partner a hynny o flaen y genedl, mae hynny’n ddychryn!”