Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi methu â chymeradwyo Cynllun Iaith y rheoleiddiwr darlledu, Ofcom.

Dywedodd y Bwrdd eu bod nhw wedi bod yn cynnal trafodaethau gydag Ofcom hyd at oriau olaf eu bodolaeth, “yn unol â chyfarwyddyd” y Gweinidog Iaith, Leighton Andrews.

Gorffennodd y trafodaethau yn hwyr brynhawn heddiw. Bydd y Bwrdd yn cael ei diddymu y penwythnos yma.

Roedden y Bwrdd ac Ofcom wedi ceisio cytuno ffurf ar eiriau a fyddai’n galluogi’r Bwrdd i gymeradwyo Cynllun Iaith y rheoleiddiwr darlledu.

Mae Ofcom wedi datgan eu bod yn awyddus i weld deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno a fyddai’n cryfhau eu gallu i gynnwys amodau ieithyddol wrth ddyfarnu trwyddedau darlledu yng Nghymru.

Dywedodd y rheoleiddiwr darlledu y byddwn nhw’n cyflwyno’r dadleuon hynny i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan.

Ond dywedodd y Bwrdd eu bod nhw’n gryf o’r farn bod y pwerau hynny eisoes gan Ofcom.

Mewn llythyr ar ddiwedd mis Chwefror roedd y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru – Leighton Andrews – wedi cytuno â’r dehongliad hwnnw.

“Er bod sawl agwedd galonogol i’r trafodaethau a gynhaliwyd, nid oedd Ofcom yn barod i dderbyn dehongliad y Bwrdd a’r Gweinidog o’r sefyllfa gyfreithiol,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd.

“Golyga hyn na fydd yn bosibl i’r Bwrdd gymeradwyo’r cynllun iaith, ac wrth i swyddogaeth y Bwrdd ddirwyn i ben, mae’r mater yn awr yn cael ei drosglwyddo’n ffurfiol yn ôl i’r Gweinidog iddo weithredu ei bŵer i osod y cynllun ar Ofcom.”

“Mater yn awr i’r Gweinidog yw gweithredu yn unol â’r bwriad a amlinellodd yn ei lythyr at y ddau gorff ym mis Chwefror,” meddai Marc Phillips, Cadeirydd y Bwrdd.

“Rydw i’n siomedig na fu’n bosibl i ni gyrraedd cytundeb. Rydw i wedi pwysleisio wrth Ofcom pwysigrwydd ystyriaethau ieithyddol wrth ddyfarnu trwyddedau darlledu.

“Mewn gwlad sydd â dwy iaith – y ddwy yn meddu ar statws swyddogol, ond lle mae un yn gryfach o lawer na’r llall – nid oes modd i gyfryngau darlledu bod yn niwtral.

Mae dylanwad gweithredol gan y cyfryngau ar y cydbwysedd a’r anghyfartaledd syd”d yn bodoli rhwng y ddwy iaith.

“Mewn sefyllfa o’r fath byddai rheoleiddiwr darlledu sydd yn methu ystyried ffactorau ieithyddol yn anaddas at ei bwrpas.

“Wrth ddadlau dros newid mewn deddfwriaeth, mae Ofcom, felly, yn cydnabod nad ydynt yn abl i weithredu mewn modd priodol yng Nghymru.

“Ond dadl y Bwrdd yw bod gan Ofcom bwerau eisoes nad ydynt yn dewis eu gweithredu.

“Ein hofn ni yw y bydd Ofcom yn awr yn parhau i ddyrannu trwyddedau newydd i wasanaethau radio cymunedol a masnachol, gan ddefnyddio meini prawf sydd yn diystyru’r Gymraeg.

“Mae nifer o geisiadau o’r math eisoes dan ystyriaeth ganddynt. Edrychwn ymlaen at weld gweithredu gan y Gweinidog i gywiro’r sefyllfa hon.”