Bu’n rhaid cau’r M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr am gyfnod wedi i dri char wrthdaro.

Roedd un o’r ceir yn tynnu carafán. Mae’r ffordd, rhwng cyffyrdd 34 a 35, bellach wedi ei ailagor.

Aethpwyd a tri pherson i’r ysbyty, dau mewn ambiwlans ac un mewn ambiwlans awyr. Y gred yw nad yw’r anafiadau yn berygl bywyd.

Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 5pm.