Gareth Williams
Mae teulu’r ysbïwr o Fôn fu farw yn Llundain yn 2010 wedi dweud heddiw eu bod nhw’n pryderu bod y gwasanaethau cudd wedi ceisio cuddio rhai elfennau o’i farwolaeth.

Mae perthnasau Gareth Williams, 31, yn credu bod rhywun unai bresennol pan fuodd farw neu wedi torri mewn i’w gartref yn ddiweddarach er mwyn ceisio dinistrio’r dystiolaeth.

Mae’r teulu yn mynnu atebion wedi i Scotland Yard ddatgelu mai DNA un o’r gwyddonwyr oedd ynghlwm â’r achos a ddarganfuwyd ar law Gareth Williams, wedi 18 mis o ymchwilio.

Wrth siarad mewn gwrandawiad cyn cwest Gareth Williams, dywedodd cyfreithiwr y teulu, Anthony O’Toole, bod rhaid datrys pam nad oedd tystiolaeth fod unrhyw un arall wedi bod yn yr ystafell.

“Yr argraff sydd gan y teulu yw bod tystiolaeth wedi ei ddileu wedi’r farwolaeth gan arbenigwr yng nghrefftau’r gwasanaethau cudd,” meddai.

Mynnodd y cyfreithiwr bod angen “cael gwybod beth oedd gwaith” Gareth er mwyn cael “ymchwilio’n iawn i amgylchiadau ei farwolaeth”.

Cafodd corff noeth, pydredig Gareth Williams ei ddarganfod mewn bag chwaraeon ym math ei gartref yn Plimlico, canol Llundain, ym mis Awst 2010.

Doedd archwiliad post-mortem ddim wedi gallu sefydlu sut yn union y bu farw.

Roedd yr heddlu wedi dweud yn wreiddiol ei bod hi’n amhosib fod Gareth Williams wedi cloi ei hun yn ei fag chwaraeon.

Ond dywedodd y crwner heddiw y byddai’r cwest yn ystyried y posibilrwydd hwnnw.