Llywelyn Thomas
Mae teulu Cymro gafodd ei ladd yn Swydd Gaergrawnt wedi cynnig gwobr am unrhyw wybodaeth sy’n arwain at gael ei laddwr yn euog o’r drosedd.

Daethpwyd o hyd i Llywelyn Thomas, 76, yn farw yn ei gartref yn Chittering ar 18 Rhagfyr y llynedd. Cred yr heddlu fod lladrad wedi mynd o’i le.

Mae teulu  Llywelyn Thomas yn cynnig £10,000, Taclo’r Tacle yn cynnig £10,000 a heddlu Swydd Gaergrawnt yn cynnig £20,000.

Dywedodd yr heddlu bod tair oriawr nodedig a waled wedi mynd o’r tŷ. Mae dyn 22 oed a dynes 21 oed wedi eu cyhoeddi ar fechnïaeth.

Roedd Llywelyn Thomas a’i wraig wedi symud o Gymru i Swydd Gaergrawnt er mwyn byw yn agosach at y teulu. Bu’n ffermwr yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.

“Rydw i’n gobeithio y bydd y wobr yn annog rhywun i gysylltu â gwybodaeth ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am farwolaeth Llywelyn Thomas,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Dywedodd ei fab Richard bod “rhywun yn gwybod beth ddigwyddodd y noson honno. Gobeithio y bydd y wobr yn anogaeth iddyn nhw sicrhau cyfiawnder.”