Aethpwyd a tri gyrrwr lori i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yn Sanclêr.

Bu’n rhaid cau’r ffordd yn y ddau gyfeiriad y bore ma rhwng cylchfan Sanclêr a chylchfan Penblewin ar ôl y gwrthdrawiad rhwng tair lori r Fryn Pengaws.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru bod un gyrrwr wedi ei ddal yn ei lori a bod angen defnyddio offer torri hydrolig i’w ryddhau.

Dargyfeirwyd traffic ar hyd yr A477 i Gilgeti a’r A478 drwy Arberth.

Mae criwiau tân o Arberth a Hendy-gwyn wedi bod yn helpu i glirio’r difrod.