Llys Ynadon Caerdydd
Mae gyrrwr tacsi wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o daro cerddwyr i lawr â’i gar.

Arestiwyd Majid Rehman ar ôl i wyth o bobol gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad ar Wood Street, ynghanol dinas Caerdydd, ddydd Mawrth.

Mae’r dyn 28 oed wedi ei gyhuddo o un achos o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a saith achos o geisio achosi niwed corfforol difrifol.

Roedd chwech o’r rheini a anafwyd yn gweithio ar y rheilffordd.

Siaradodd y diffynnydd o Grangetown, Caerdydd, i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad yn unig.

Cadwyd ef yn y ddalfa gan yr ynad Christopher F. Dale, er gwaethaf cais am fechnïaeth gan y diffynnydd oedd yn cynnwys maich £5,000 gan gyfaill i’r teulu.

Fe fydd y diffynnydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ar 10 Ebrill.